91热爆

Amserlen newydd i roi 'mwy o drenau cyflymach i Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Tr锚n GWR newydd yng NghasnewyddFfynhonnell y llun, Gareth James/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd GWR yn darparu gwasanaeth cyflym bob awr rhwng Caerdydd a Llundain yn ystod oriau brig

Mae trenau cyflymach ac amlach rhwng de Cymru a Llundain yn cael eu haddo wrth i'r newid mwyaf i'r amserlen trenau ers 40 mlynedd ddod i rym ddydd Sul.

Nod cwmni Great Western Railway yw cwtogi'r daith rhwng Caerdydd a Llundain o gymaint 芒 17 munud.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ychwanegu lle ar gyfer 6,500 o deithwyr ychwanegol i deithwyr ar leiniau'r Cymoedd.

Bydd 186 o wasanaethau ychwanegol ar ddyddiau Sul hefyd yng Nghymru.

Canslo trenau

Ond cafwyd problemau ddydd Sadwrn wrth i drenau gael eu canslo, gyda Thrafnidiaeth Cymru'n beio hynny ar brinder staff a gwaith ar yr amserlen newydd.

"Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn gallu bod yn heriol, yn enwedig ar benwythnosau, ac rydyn ni'n ymddiheuro bod nifer o drenau ar ein rhwydwaith wedi eu canslo," meddai llefarydd.

"Fel bob tro, rydyn ni'n ddiolchgar i gydweithwyr sydd wedi rhoi eu hamser eu hunain a gwirfoddoli i weithio oriau ychwanegol ac yn ystod dyddiau i ffwrdd."

Mae GWR yn dweud mai dyma fydd y "newid mwyaf i amserlen y rhwydwaith ers 1976", gyda'r bwriad o gyflymu'r daith ar y 93 o drenau Hitachi 800 (125mya) a lansiwyd yn 2017.

Bydd y trenau sy'n rhedeg ddwywaith yr awr o Gaerdydd i Lundain yn cyrraedd 14 munud yn gynt, ac fe fyddan nhw hefyd yn cyflwyno gwasanaeth oriau brig rhwng y ddwy ddinas fydd ddim yn stopio rhwng Bryste a Llundain, gan gwtogi'r amser teithio fwy fyth.

Bydd teithwyr rhwng Caerdydd a Portsmouth, neu Taunton a Chaerwysg hefyd yn gweld mwy o le i gwsmeriaid.

Ffynhonnell y llun, Transport for Wales
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd trenau newydd Trafnidiaeth Cymru yn gwasanaethu Maesteg, Caerdydd a Glyn Ebwy

Trafnidiaeth Cymru

Bydd teithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ym Maesteg, Caerdydd a Glyn Ebwy yn cael trenau newydd gyda mwy o bwyntiau gwefru a wi-fi.

Bydd yr hen drenau ar y leiniau yna yn cael eu symud i leiniau'r Cymoedd, sy'n aml yn orlawn, gan ddarparu lle i 6,500 o deithwyr bob wythnos.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn dweud y byddan nhw'n uwchraddio'r cerbydau ar drenau'r gogledd i Fanceinion, ac yn darparu gwasanaeth ychwanegol rhwng Caergybi a Chaerdydd.

Mae penaethiaid y trenau wedi rhybuddio teithwyr i wirio'r amserlen newydd cyn teithio, gan ei bod yn debygol fod eu trefniadau teithio arferol wedi newid.

Ychwanegodd Trafnidiaeth Cymru bod y 186 o drenau ychwanegol ar ddyddiau Sul yn gynnydd o 40% gyda'r nod o "hybu twristiaeth a darparu cyswllt hanfodol rhwng dinasoedd, trefi a phentrefi".

Mae'r gwasanaethau Sul ychwanegol yn cynnwys:

  • Pedwar tr锚n rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog;

  • Pum tr锚n yn lle un rhwng Machynlleth a Phwllheli;

  • Gwasanaeth newydd rhwng Caerdydd Canolog a Maesteg;

  • Dyblu nifer y trenau rhwng Caerdydd Canolog ac Abertawe;

  • Cynyddu'r gwasanaethau rhwng Aberystwyth ac Amwythig o 16 i 21;

  • 32 o wasanaethau newydd rhwng Llandudno a Chyffordd Llandudno;

  • Saith gwasanaeth newydd rhwng Rhymni a Chaerdydd;

  • Cynyddu'r trenau rhwng Stryd y Frenhines, Caerdydd i Fae Caerdydd o 100 i 130, gyda'r gwasanaethau'n parhau tan 22:00 yn hytrach na 19:00;

  • Amserlen haf ar hyd arfordir y gogledd yn rhedeg drwy'r flwyddyn.