Oedi tan 2020 cyn cyflwyno trenau 'newydd' i'r Cymoedd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i adnewyddu trenau ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd wedi cael ei ohirio tan yn "gynnar yn 2020".
Yn wreiddiol roedd trenau Dosbarth 769 i fod i gael eu cyflwyno i Drafnidiaeth Cymru yn y gwanwyn.
Ond dywed Porterbrook, y cwmni sy'n eu cynhyrchu, fod problemau cyflenwi a pheirianyddol yn golygu nad yw'r pum tr锚n yn barod.
Yn 么l un ffynhonnell, mae yna her beirianyddol wrth geisio addasu trenau h欧n i ddefnyddio disel a thrydan.
Yn y Senedd ym Mae Caerdydd fe wnaeth Plaid Cymru alw am sicrwydd nad trethdalwyr fydd yn gorfod talu am yr oedi.
Mae Porterbrook wedi ymddiheuro am y sefyllfa gan ddweud y bydd y trenau yn cael eu rhoi i Drafnidiaeth Cymru mor fuan 芒 phosib.
Dywedodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru: "Gyda chwsmeriaid eisoes yn dioddef, mae angen sicrwydd ar ran trethdalwyr fod y cytundeb gyda'r cwmni yn cynnwys elfen o ddirwy, a'r gallu i ganslo."
Yn 么l Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fe fydd yna leihad yng nghost rhai gwasanaethau yn y rhwydwaith, pan fydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad ym mis Ionawr.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru nad oeddynt yn gallu cadarnhau yn bendant pryd y bydd y trenau yn weithredol.
"Byddwn yn parhau gyda rhaglen hyfforddi gyrwyr ac rydym yn gobeithio cyflwyno'r Dosbarth 769 yn gynnar yn 2020."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019