Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Alun Cairns wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Mae Alun Cairns wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn sgil ffrae dros yr hyn oedd yn ei wybod am ran cyn-gydweithiwr mewn dymchwel achos llys.
Roedd Mr Cairns wedi gwadu ei fod yn gwybod am ran Ross England mewn dymchwel achos treisio.
Ond fe welodd 91热爆 Cymru e-bost gafodd ei anfon at Mr Cairns ac eraill yn crybwyll y mater.
Dywedodd Mr Cairns ddydd Mercher y byddai'n gadael ei swydd fel aelod cabinet.
Ond mae 91热爆 Cymru yn deall y bydd Mr Cairns yn sefyll fel ymgeisydd aelod seneddol ym Mro Morgannwg ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr.
Yn ei lythyr at Boris Johnson, dywedodd Mr Cairns ei fod yn ymddiswyddo o'r cabinet yn sgil y dyfalu am y "mater sensitif iawn yma".
Ychwanegodd y byddai'n "cydweithio'n llawn" gyda'r ymchwiliad ac yn "hyderus" y byddai'r ymchwiliad yn ei glirio o "unrhyw gamymddwyn".
Dywedodd Mr Johnson ei fod yn "hynod ddiolchgar am yr holl waith" y mae Mr Cairns wedi ei wneud yn y swydd.
Beth oedd yr achos llys?
Roedd Mr Cairns - sydd wedi bod yn Ysgrifennydd Cymru ers Mawrth 2016 - yn wynebu pwysau cynyddol i ymddiswyddo yn dilyn helynt achos llys yn ymwneud 芒 Mr England.
Dywedodd barnwr fod Mr England wedi dymchwel achos, lle'r oedd cyfaill yn sefyll ei brawf, yn fwriadol yn Ebrill 2018, drwy wneud honiadau ynghylch hanes rhywiol y dioddefwr.
Roedd Mr Cairns yn gwadu ei fod yn gwybod am hyn.
Ond fe welodd 91热爆 Cymru e-bost gafodd ei anfon ato ym mis Awst 2018 yn s么n am y mater.
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ym mis Rhagfyr 2018, cafodd Mr England ei ddewis fel ymgeisydd i'r Blaid Geidwadol ym Mro Morgannwg ar gyfer yr etholiad Cynulliad nesaf.
Roedd Mr England yn arfer gweithio yn swyddfa etholaeth Mr Cairns ac roedd yn ymgeisydd y Blaid Geidwadol ym Mro Morgannwg ar gyfer etholiad y Cynulliad 2021.
Cafodd ei wahardd gan y blaid yr wythnos ddiwethaf yn sgil yr honiadau am ei ymwneud 芒'r achos llys.
Roedd Mr Cairns eisoes wedi dweud nad oedd wedi derbyn unrhyw ohebiaeth yngl欧n 芒'r achos llys a'i fod wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn ystyried fod Mr England yn "ffrind a chydweithiwr" ac y byddai'n "bleser i ymgyrchu gydag ef".
'Ddim yn ffit i fod yn weinidog'
Roedd y dioddefwr yn yr achos treisio - a'r gwrthbleidiau - wedi galw ar Mr Cairns i ymddiswyddo.
Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Mercher, dywedodd Liz Saville Roberts o Blaid Cymru: "Rwy'n gobeithio y bydd ymddiswyddiad Alun Cairns fel Ysgrifennydd Cymru'n rhyw fath o gysur i'r ddynes wrth wraidd yr achos yma, sydd dal heb dderbyn ymddiheuriad gan y Blaid Geidwadol.
"Mae ymddygiad Mr Cairns wedi profi'n ddiamau nad yw'n ffit i fod yn weinidog. Gallech chi ddim fod 芒 rhan mewn ymgais i guddio dymchwel achos o dreisio a gobeithio osgoi cael eich dal yn gwneud hynny.
"Dyw'r fath ymddygiad ddim yn gweddu gweinidog llywodraeth, nac Aelod Seneddol. Dylai Mr Cairns fod yn anrhydeddus a thynnu'n 么l o'r etholiad - ac os nad ydy o'n gwneud hynny, dylai'r Blaid Geidwadol fynnu ei fod yn tynnu'n 么l."
Dywedodd arweinydd y gr诺p Ceidwadol yn y Cynulliad, Paul Davies: "Mae'n ddrwg gen i weld Alun yn ymddiswyddo heddiw fel Ysgrifennydd Cymru ond, dan yr amgylchiadau, dyma oedd y penderfyniad cywir iddo.
"Mae Alun wedi datgan yn gywir y bydd yn cydweithio'n llawn ag unrhyw ymchwiliadau.
"Hoffwn ddiolch i Alun am ei wasanaeth i Gymru fel ein Hysgrifennydd Gwladol, ble mae wedi dod 芒 thollau Pont Hafren, a fydd yn gadael gwaddol parhaol i economi Cymru."
Ychwanegodd cadeirydd Cymdeithas Geidwadol Bro Morgannwg, Jeff James bod ganddo "bob hyder yn Alun Cairns fel yr ymgeisydd yn yr etholaeth".
'England heb gyrraedd y safonau'
Fe wnaeth Mr Davies ryddhau datganiad pellach brynhawn Mercher yn cyfeirio at ddioddefwr yr achos llys sy'n ganolbwynt i'r sefyllfa sydd wedi arwain at yr ymddiswyddiad.
"Mae'r achos yma wedi bod yn frawychus a gofidus," meddai. "Mae fy nghalon yn gwaedu dros yr unigolyn yma ac i bawb sydd wedi dioddef trais neu ymosodiad rhyw."
Ychwanegodd ei fod yn "disgwyl y safonau posib o ymgeiswyr y Blaid Geidwadol ar gyfer y Cynulliad", a bod "yr achos llys yma'n awgrymu bod Ross England heb gyrraedd y safonau hynny".
Dywedodd AC Plaid Cymru, Leanne Wood bod ymddiswyddiad Mr Cairns "yn golygu dim" oni bai ei fod hefyd yn ymddiswyddo fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol "oherwydd does dim sicrwydd y byddai wedi mynd yn 么l i'w hen swydd yn dilyn yr etholiad beth bynnag".
Mae llefarydd Llafur ar Gymru, Christina Rees, wedi dweud bod ei ymddiswyddiad "ymhell o gau pen y mwdwl" a galwodd arno i ymddiheuro a sefyll i lawr fel ymgeisydd.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds y dylai Mr Cairns gamu o'r neilltu fel ymgeisydd seneddol.
"Mae'n bwysig iawn ei fod o'n sefyll i lawr, ddim jest o'r cabinet, ond fel ymgeisydd Aelod Seneddol," meddai.
Pwy ydy Alun Cairns?
Cafodd Alun Cairns, 49, ei fagu yng Nghlydach, sir Abertawe a daeth yn AC ar y rhestr ranbarthol yn 1999, cyn cael ei ailethol yn 2003 a 2007.
Yn dilyn cais aflwyddiannus i gael ei ethol yn AS Gorllewin Clwyd yn 2001, cafodd ei ethol yn AS y Ceidwadwyr ym Mro Morgannwg yn 2010 gyda mwyafrif o dros 4,000.
Fe ymddiswyddodd o gabinet yr wrthblaid yn 2008 wedi iddo wneud sylwadau dadleuol ar raglen wythnosol Dau o'r Bae ar Radio Cymru, gan alw Eidalwyr yn "greasy wops".
Ym mis Mawrth 2016 cafodd ei ddewis gan y Prif Weinidog ar y pryd, David Cameron fel Ysgrifennydd Cymru yn lle Stephen Crabb.
Mae wedi gwasanaethau yn y r么l dan dri phrif weinidog gwahanol ac ef sydd wedi gwasanaethu hiraf fel AS allan o holl aelodau o gabinet presennol y llywodraeth.
Yn Ebrill 2018, fe wynebodd ymateb chwyrn yn dilyn y cyhoeddiad y byddai Pont Hafren yn cael ei ailenwi'n Pont Tywysog Cymru i ddathlu 60 mlynedd ers yr arwisgiad.
Roedd hefyd wedi cefnogi cynllun morlyn Abertawe a thrydaneiddio'r rheilffordd i'r ddinas, cyn ailfeddwl ar 么l i'r llywodraeth benderfynu peidio 芒 bwrw ymlaen 芒'r cynlluniau.
Pwy arall sy'n ymgeisio?
Hefyd yn sefyll ym Mro Morgannwg yn yr etholiad cyffredinol mae Belinda Loveluck-Edwards ar ran y Blaid Lafur ac Ian Johnson o Blaid Cymru.
Sally Stephenson yw ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a bydd yr enwebiadau'n cau ddydd Iau, 14 Tachwedd.