Ail Bont Hafren wedi'i henwi'n Bont Tywysog Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd yr ail bont dros Afon Hafren yn cael ei hailenwi'n Bont Tywysog Cymru.
Daw'r newid er mwyn nodi 60 mlynedd ers i'r Tywysog Charles dderbyn y teitl.
Ond mae'r enw newydd eisoes wedi derbyn beirniadaeth hallt ar y gwefannau cymdeithasol, gydag amryw yn cwyno nad oedd yna unrhyw ymgynghori gyda phobl Cymru.
Fe wnaeth Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, drydar cyn gwneud y penderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "I gadarnhau, fe wnaeth Alun Cairns ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yngl欧n ag enwi'r bont y flwyddyn ddiwethaf, ac ni wnaethom ddatgan gwrthwynebiad."
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ai joc ffwl Ebrill hwyr oedd y cyfan.
Mae rhai aelodau amlwg o'r blaid Lafur hefyd wedi beirniadu'r penderfyniad, gyda Paul Flynn yn disgrifio'r penderfyniad fel un "chwerthinllyd" oedd yn "benderfyniad gwleidyddol".
Roedd dros 5,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid enw erbyn diwedd prynhawn dydd Iau.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, nad oedd o wedi ei synnu o gwbl o ran y feirniadaeth gan rai.
"Rwy'n gwybod fod y gymuned ehangach, y mwyafrif tawel yn cyd-fynd yn llwyr 芒'n penderfyniad," meddai ar raglen Good Morning Wales y 91热爆.
"Rydym o hyd yn gwybod mewn adegau o argyfwng fel cenedl fe all pobl edrych i'r teulu brenhinol ar gyfer arweinyddiaeth ac maen nhw o hyd wedi bod yn barod i ddangos hynny.
"Felly rwy'n gwbl hyderus mai hwn yw'r peth iawn i wneud."
'Cydnabod ei ymrwymiad i Gymru'
Bydd yr enw newydd yn dechrau cael ei ddefnyddio yn yr haf, ac ni fydd enw newydd i'r bont wreiddiol.
Mae'r ailenwi wedi cael s锚l bendith y Frenhines a'r Prif Weinidog Theresa May.
Ychwanegodd Mr Cairns: "Mae'r cyhoeddiad yn deyrnged addas yn y flwyddyn sy'n gweld y Tywysog Charles yn nodi 60 mlynedd fel Tywysog Cymru a degawdau o wasanaeth parhaus ac ymroddgar i'n cenedl.
"Mae ailenwi un o dirnodau mwyaf eiconig Cymru yn fodd priodol o gydnabod ei ymrwymiad i Gymru a'r DU fel Tywysog Cymru."
Cafodd yr ail bont ei hagor yn 1996. Fe gostiodd 拢332m ac fe gymrodd dros bedair blynedd i'w hadeiladu.