Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y gwynt a'r glaw yn amharu ar drefniadau teithio
Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion wedi effeithio ar drefniadau teithio wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi dau rybudd ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Sadwrn.
Mae yna rybudd melyn am law trwm mewn 17 sir yng Nghymru ond mae disgwyl i ran helaeth o'r gogledd osgoi'r tywydd gwaethaf wrth i'r glaw barhau rhwng 06:00 a 23:59.
Yn ogystal mae yna rybudd am wynt cryf yn siroedd y de tan 18:00.
Fore Sadwrn roedd nifer o ffyrdd yn y de ar gau oherwydd llifogydd ac roedd yna gyfyngiadau cyflymder ar yr M4 oherwydd d诺r.
Dywed Heddlu De Cymru bod y glaw wedi cael effaith ar gynlluniau teithio i Ysbyty Treforys o gyffordd 46 yr M4 a bod ffordd Pont Lasau ar gau oherwydd llifogydd.
Yn ogystal mae adroddiadau bod cerbydau wedi cael trafferthion ger gorsaf betrol Tesco ar ffordd yr A4067 ym Mhontardawe.
Ar un adeg roedd coeden wedi cwympo ac wedi cau'r rheilffordd rhwng Y Rhws a Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg ac roedd hynny yn effeithio ar y gwasanaethau i Faes Awyr Caerdydd.
Mae llifogydd hefyd wedi cau ffyrdd rhwng Treg诺yr ac Ystalyfera ac mae oedi wedi bod i'r gwasnaeth tr锚n yn yr ardal.
Roedd yn dd诺r hefyd ar ffordd danddaearol ym Mhorthcawl.
Yn ystod bore Sadwrn dywedodd Heddlu'r Gogledd bod llifogydd wedi effeithio ar Ffordd Croesnewydd yn Wrecsam.
Mae yna rybuddion hefyd bod tipyn o fwd ar gylchfan y Faenol ger Y Felinheli yng Ngwynedd wedi i lori wrthdaro.
Rhybuddir y gallai'r gwynt achosi niwed i goed ac eiddo a thonnau uchel mewn mannau arfordirol, ynghyd 芒 thrafferthion ar y ffyrdd a'r posibilrwydd o orfod canslo gwanaethau tr锚n a fferi.
Bu rhybudd oren mewn grym ar gyfer rhannau o Gymru y penwythnos diwethaf, gyda nifer o ardaloedd yn gorfod delio 芒 llifogydd.
Mae'r rheilffordd rhwng Casnewydd a'r Fenni eisoes ar gau nes 4 Tachwedd oherwydd y llifogydd diweddar.
Cafodd trigolion sy'n byw mewn parc preswyl yn Sir Fynwy hefyd eu cynghori i adael y safle am fod lefel y d诺r yn afon Gwy wedi codi cymaint.