Llifogydd yn achosi trafferthion teithio ledled Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae ffyrdd a gwasanaethau teithio wedi cael eu heffeithio wrth i law trwm ddisgyn ar draws y rhan fwyaf o Gymru.
Daeth rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd i rym brynhawn Gwener, a bu'n weithredol dros Gymru gyfan tan 15:00 ddydd Sadwrn.
Y disgwyl oedd mai de-ddwyrain a de-orllewin Cymru fyddai'n cael eu heffeithio fwyaf gan y glaw.
Ond roedd hyd yn oed eira wedi tarfu ar wasanaethau Rheilffordd yr Wyddfa ddydd Sadwrn hefyd.
Dywed Traffig Cymru bod ffyrdd yng Ngheredigion a Phowys wedi'u gorlifo.
Doedd dim modd mynd drwy'r A483 o'r Drenewydd i Aberriw, ac fe dderbyniodd y gwasanaeth t芒n nifer o alwadau am lifogydd yn ardaloedd Talgarth ac Aberhonddu.
Roedd y gwasanaeth t芒n hefyd wrth law ar 么l i fenyw a'i phlentyn fynd yn sownd ar yr A483 yn ardal Garthmyl rhwng Y Trallwng a Threfaldwyn oherwydd y llifogydd.
Yng Ngheredigion, mae'r B4337 rhwng y bont yn Nhalsarn a'r gyffordd 芒'r B4342 tuag at Felinfach wedi ei chau oherwydd difrod llifogydd i wyneb y ffordd.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio teithwyr trenau i edrych ar eu siwrnai cyn teithio.
Yn y cyfamser mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o rybuddion am lifogydd ar draws Cymru.
Mae manylion y rhybuddion llifogydd diweddaraf ar gael ar .
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019