Uwchraddio rhybudd am law trwm i oren ar gyfer y de
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi uwchraddio ei rhybudd am law trwm i Gymru i un oren mewn rhai mannau.
Roedd rhybudd melyn eisoes mewn grym ar gyfer pob rhan o Gymru o 12:00 ddydd Gwener nes 13:00 ddydd Sadwrn.
Ond mae rhybudd oren bellach wedi'i osod ar gyfer rhannau helaeth o dde Cymru rhwng 18:00 ddydd Gwener a 11:00 ddydd Sadwrn.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei bod yn disgwyl y bydd llifogydd yn achosi difrod i gartrefi a busnesau.
'Trwm a pharhaus'
Mae'n rhagweld oedi i drafnidiaeth hefyd, gyda bysiau a threnau'n gorfod cael eu canslo a ffyrdd yn cau.
Ychwanegodd bod toriad mewn cyflenwad p诺er yn debygol, a bod perygl posib i fywyd oherwydd llifogydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: "Bydd y glaw yn drwm a pharhaus ar draws de Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n agored i wynt o'r de-orllewin.
"Mae disgwyl i nifer o lefydd weld 60-80mm o law, gyda hyd at 100-120mm yn bosib ar dir uchel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019