91热爆

Rhybudd melyn am law trwm yn y rhan helaeth o Gymru

  • Cyhoeddwyd
RhybuddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rhybudd yn berthnasol i bob rhan o Gymru oni bai am Ynys M么n a Phen Ll欧n

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm a chyson dros y deuddydd nesaf allai effeithio ar bron bob rhan o Gymru.

Bydd y rhybudd yn dod i rym rhwng 12:00 dydd Gwener a 18:00 ddydd Sadwrn.

Y darogan yw mai dim ond Ynys M么n, Pen Ll欧n a Sir y Fflint fydd yn osgoi tywydd garw.

Mae disgwyl rhwng 30-50mm o law, a hyd at 120mm ar dir uchel.

Fe allai'r tywydd achosi llifogydd, toriadau mewn cyflenwadau trydan, ac amodau anodd i deithwyr.

Fe fydd y sefyllfa'n waeth ar dir uchel oherwydd gwyntoedd cryfion o'r de-orllewin.