91热爆

Cynghori pobl i adael parc preswyl yn sgil y tywydd

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd Mynwy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 16 o bobl sydd yn byw yn y safle yn dweud nad ydyn nhw eisiau gadael eu cartrefi

Mae trigolion sy'n byw mewn parc preswyl yn Sir Fynwy wedi cael eu cynghori i adael y safle am fod lefel y d诺r yn Afon Gwy yn parhau i godi.

30 o dai sydd ar safle Riverside Residential Park, ac mae 16 o bobl wedi dweud wrth y Gwasanaeth T芒n eu bod eisiau aros.

Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y gallai'r sefyllfa fod yn un lle y bydd yn rhaid i bobl gael eu hachub os nad ydyn nhw'n gadael.

Mae llety dros nos yn cael ei gynnig i bobl sydd wedi gadael y safle.

Glaw trwm

Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru eu bod yn disgwyl i'r d诺r fod ar ei uchaf rhwng 18:00 a 19:00.

Ond mae'r rhai sydd eisiau aros yn dweud eu bod wedi gweld sefyllfa debyg o'r blaen.

Mae'r cyngor yn darparu bysiau i'r trigolion sydd yn byw yn y parc i'w cludo i ganol y dref i aros mewn llety dros dro.

Yn ystod y penwythnos fe wnaeth glaw trwm olygu bod ffyrdd a gwasanaethau teithio wedi cael eu heffeithio, ac roedd rhybudd melyn yn ei le.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i lefel y d诺r yn Afon Gwy fod ar ei uchaf yn yr oriau nesaf

Mae rhybuddio am lifogydd yn parhau yn eu lle ar draws Cymru.

Yn 么l Tim England o Gyfoeth Naturiol Cymru "mae lefelau'r d诺r mewn rhai afonydd yn parhau i godi" ac maent yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus, er bod y glaw wedi gostegu.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dweud bod hi'n bosib y bydd y brif stryd yn Nhyndyrn ar gau nos Lun a dydd Mawrth oherwydd llanw uchel.

Dyw'r llinell dr锚n rhwng Y Fenni a'r Henffordd ddim ar agor chwaith ar 么l i lifogydd olygu bod darn o'r traciau wedi ei olchi i ffwrdd a does dim disgwyl iddi ailagor tan ddydd Llun nesaf.

Mae bysiau ar gael i deithwyr wrth i beirianwyr geisio trwsio'r difrod.