Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mark Drakeford: Araith y Frenhines yn 'ffugbeth'
Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw cynllun Boris Johnson am ddeddfau newydd ar Brexit, trosedd, iechyd a'r amgylchedd yn "ffugbeth".
Yn 么l Mark Drakeford roedd Araith y Frenhines, sy'n amlinellu'r cynigion, yn "st峄硁t wleidyddol".
Fe amlinellodd yr araith 26 o bolis茂au y mae cefnogwyr gweinyddiaeth Mr Johnson yn eu disgrifio'n rhai "uchelgeisiol".
Ond gyda diffyg mwyafrif yn Nh欧'r Cyffredin, mae'n debygol na fydd llawer o'r cynigion yn dod yn ddeddf - sy'n eu gwneud yn gyfystyr i bob pwrpas 芒 "maniffesto etholiadol", ym marn y gwrthbleidiau.
'Dymuniadau ffantas茂ol'
Cafodd yr araith ei thraddodi wrth i'r trafodaethau Brexit rhwng gyda'r UE barhau, gyda Mr Johnson yn mynnu y bydd y DU yn gadael yr undeb ar 31 Hydref boed yna gytundeb ai peidio.
Ond dywedodd Mr Drakeford nad oes gan Lywodraeth y DU "unrhyw fwriad i gyflawni Araith y Frenhines o gwbl".
Ychwanegodd ei fod yn araith wleidyddol "ar ran yr hyn sydd ar 么l o'r Blaid Geidwadol".
"Dyma yw problem y prif weinidog. Pob tro mae'n ildio tir i'r Undeb Ewropeaidd, mae'n colli cefnogaeth yn Nh欧'r Cyffredin.
"Pob tro mae'n ceisio adfer ei fwyafrif yn Nh欧'r Cyffredin mae'n colli cefnogaeth gan yr Undeb Ewropeaidd.
"Does dim ffordd ymlaen mae o wedi gallu ei ddangos hyd yn hyn, a heb hynny mae Araith y Frenhines yn syml yn ffugbeth."
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi gwrthod y cynigion gan eu disgrifio fel "rhestr o ddymuniadau ffantas茂ol".
Dywedodd Liz Saville Roberts wrth 91热爆 Cymru: "Cyfle yn unig yw hwn i Boris Johnson gyflwyno'r hyn mae eisiau gweld yn ei faniffesto Etholiad Cyffredinol.
"Ond does ganddo mo'r amser na'r niferoedd i wireddu dim o hyn oll, felly mewn sawl ffordd rhestr o ddymuniadau ffantas茂ol ydy o."
Ychwanegodd: "Yr hyn ddylen ni fod yn ei drafod a dylai fod ar dudalen flaen Araith y Frenhines yw refferendwm ategol i ganfod ffordd o ddod 芒'r holl sefyllfa [Brexit] yma i ben."
'Cyfle i uno'r wlad'
Wrth groesawu cynlluniau Mr Johnson, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, bod yr araith yn dangos bod y Ceidwadwyr eisiau cyflawni Brexit ac yn "amlygu agenda cyffrous" ar 么l Brexit.
"Mae'r wlad wedi'i pharlysu ers amser mor hir. Dyma ein cyfle i uno'r wlad," meddai.
"Mae gyda ni blatfform cyffrous ond mae'n rhaid cyflawni Brexit er mwyn cael y cyfle i'w gwneud nhw."