Brexit yn 'bygwth hawliau menywod' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Gallai hawliau menywod yng Nghymru fod mewn perygl yn sgil Brexit, ym marn arbenigwr rhyngwladol mewn cydraddoldeb.
Yn 么l Virginia Bras Gomes, cyn-gadeirydd Pwyllgor Hawliau Economaidd, Diwylliannol a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, mae'r Undeb Ewropeaidd yn cynnig fframwaith gref ar gyfer cydraddoldeb ac atal gwahaniaethu.
Mae hi'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i lywodraeth ffeministaidd, ond bod yn rhaid gweithredu ar yr ymrwymiad hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod "wedi'i ymrwymo i wneud Cymru'r lle mwyaf diogel i fenywod a merched ifanc."
'Fframwaith cydraddoldeb'
Roedd Virginia Bras Gomes yng Nghaerdydd yr wythnos hon i drafod hawliau menywod, a'r sefyllfa wedi Brexit.
Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Politics Wales y 91热爆, dywedodd y dylai pobol fod yn bryderus yngl欧n 芒'r peryglon o golli hawliau menywod, yn enwedig yn y gweithle.
"Mae fframwaith cydraddoldeb ac atal gwahaniaethu cryf gan yr Undeb Ewropeaidd.
"Os nad y'ch chi wedi'ch clymu gan fframwaith cydraddoldeb cryf a fframwaith cryf hawliau'r gweithwyr yr Undeb Ewropeaidd, wedyn dwi'n meddwl y bydd menywod yn cael eu heffeithio'n fawr, am eu bod nhw'n gyffredinol yn cael eu heffeithio pan ei bod hi'n fater o golli hawliau.
"Mae menywod wastad ar waelod yr ysgol."
Daw ei ymweliad 芒 Chymru ar yr un wythnos ag ymgyrchydd rhyngwladol arall ar hawliau merched, cyn-Brif Weinidog Awstralia, Julia Gillard - sy'n hanu'n wreiddiol o'r Bari.
Ddechrau'r wythnos fe ymunodd hi 芒 Chabinet Llywodraeth Cymru i drafod yr adolygiad diweddara i gydraddoldeb rhyw yng Nghymru.
Mae strategaeth cydraddoldeb rhyw Cymru, a lansiwyd y llynedd gan gyn-Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones, yn anelu i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwya diogel i fod yn fenyw yn Ewrop, ac yn cynnwys ymrwymiad i greu 'llywodraeth ffeministaidd' - rhywbeth sy'n cael ei groesawu gan Virginia Bras Gomes.
"Mae'r ymrwymiad i greu llywodraeth ffeministaidd yn gam cyntaf, ond wedyn mae'n rhaid i chi roi'r cyfan ar waith.
'Diffyg ariannu'
"Y broblem sydd gyda chi o hyd gyda hawliau yw bod pob un yn eu cydnabod nhw ar bapur, ond dyw pawb ddim yn eu cydnabod nhw ar lawr gwlad."
Fis Rhagfyr diwethaf, fe benodwyr Cabinet llywodraethol cydradd cyntaf Cymru gan y Prif Weinidog newydd Mark Drakeford, gyda chwe gweinidog benywaidd.
Ond yn fwy diweddar mae'r Llywodraeth wedi ei beirniadu am ddiffyg pres a diffyg ariannu cynlluniau i fynd i'r afael 芒 hawliau menywod.
N么l ym mis Ebrill, canfu adroddiad gan Oxfam Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menwyod Cymru (WEN) fod diffyg datblygiad wrth fynd i'r afael ag atal trais yn erbyn menywod, a thaclo cydraddoldeb tal a gwaith.
Fis diwethaf fe gyhoeddodd elusen Chwarae Teg ei hadolygiad diweddaraf yn edrych ar gydraddoldeb rhyw yng Nghymru, gan ddweud bod angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno "newidiadau radical wrth edrych ar beth rydyn ni'n ei wneud a sut ydyn ni'n gwneud pethau".
"Gallwn ni ddim fforddio parhau i ddatblygu polis茂au a rhaglenni sydd, yn anfwriadol, yn ail-greu ac yn atgyfnerthu'r hen anghydraddoldebau," meddai.
'Siomedig'
Roedd yr adolygiad hefyd yn adnabod gwendidau mewn meysydd gan gynnwys poenydio a cham-drin menywod, polis茂au gofal plant, cefnogaeth i fenywod sy'n colli plant yn y groth, ac anghydraddoldeb yn y gweithle.
Ac yn 么l Maria Mesa o WEN, mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth i fenywod o gefndiroedd lleiafrifol ethnig.
"Mae cynrychiolaeth menywod o gefndiroedd BAME yng Nghymru yn hynod o siomedig, yn enwedig gan fod gyda ni'r gymuned ddu hynaf yn Ewrop.
"Mae gyda ni llawer o dalent a dydyn ni ddim yn gwneud y mwyaf ohono. Mae yna fenywod du yng Nghymru nad y'n nhw'n cael yr un cyfleoedd o gwbwl."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cytuno y gallai rhagor gael ei wneud a dyna pam rydym wedi comisiynu Chwarae Teg i ymgymryd ag ymchwiliad dau ran fewn i bolis茂au cydraddoldeb.
"Rydym wedi gosod agenda heriol i ni ein hunain ac rydym yn benderfynol i wneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod a merched ifanc.
"Mae gennym ddeddfwriaeth mewn lle ac mae datblygiadau wedi'i gwneud, ond rydym yn llawer mwy uchelgeisiol i wella bywyd menywod a merched ifanc," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2019
- Cyhoeddwyd5 Awst 2019