BAFTA Cymru 2019: Gwobrwyo goreuon byd ffilm a theledu
- Cyhoeddwyd
Mewn digwyddiad llawn rhwysg yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd cafodd goreuon y byd ffilm a theledu eu gwobrwyo yn seremoni BAFTA Cymru 2019.
Eleni ffilm ddogfen sy'n dathlu amrywiaeth cerddoriaeth Gymraeg oedd yn arwain yr enwebiadau.
Cafodd Anorac chwech o enwebiadau a Huw Stephens, cyflwynydd y rhaglen a'r seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd nos Sul, a enillodd y wobr i'r cyflwynydd gorau.
Enillodd y ffilm hon hefyd wobr am ffotograffiaeth, golygu a sain.
Yr actor o F么n, Celyn Jones yn rhan y llofrudd Levi Bellfield yn nrama ITV, Manhunt a enillodd y wobr am yr actor gorau.
Roedd nifer o actorion amlwg wedi cyrraedd y rhestrau byrion gan gynnwys Syr Anthony Hopkins, Jodie Whittaker a Michael Sheen.
Enillwyd y wobr am yr actores orau gan Gabrielle Creevey o'r ddrama gomedi In My Skin - comedi sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
Fe gafodd, Steffan Cennydd un o s锚r Enid a Lucy enwebiad am y wobr Torri Trwodd ynghyd 芒 Seren Jones am y rhaglen ddogfen Zimbabwe, Taid a Fi a fu'n olrhain ei thaith gyntaf erioed i famwlad ei mam ond enillydd y wobr nos Sul oedd Jamie Jones am ei ran yn Obey.
Roedd Fflur Dafydd ar restr fer y wobr ar gyfer awduron am y gyfres 35 Awr, gan ymuno ag Andrew Davies am Les Miserables, Owen Sheers am The NHS: To Provide All People, a Russell T Davies am A Very English Scandal- enillwyd y categori gan Russell T Davies.
Ymysg y rhaglenni Cymraeg eraill a gafodd eu henwebu roedd Cynefin a Drych: Chdi, Fi Ac IVF a chynyrchiadau ar gyfer S4C oedd yr holl enwebiadau yn y categori rhaglen adloniant sef C芒n i Gymru: Dathlu 50, Elis James - Cic Lan Yr Archif, Priodas Pum Mil! a Geraint Thomas: Viva Le Tour- yr enillydd nos Sul oedd Priodas Pum Mil!
Roedd enwau enillwyr dwy o wobrau arbennig Bafta Cymru 2019 eisoes wedi eu cyhoeddi.
Ddechrau mis Hydref cyhoeddwyd mai Bethan Jones fydd yn derbyn Gwobr Si芒n Phillips am gyfraniad i deledu a ffilm ryngwladol, tra bod Lynwen Brennan yn cael ei anrhydeddu am gyfraniad rhagorol i'r diwydiant.
Yn 么l cyfarwyddwr BAFTA Cymru, Hannah Raybould mae hi wedi bod yn "flwyddyn wych i gynhyrchu ffilm, teledu a gemau yng Nghymru" gan "arwain at fwy o geisiadau - y nifer fwyaf a gofnodwyd erioed - ar draws ein holl gategor茂au crefft, perfformio a chynhyrchu".
Yr enillwyr:
GWOBR SI脗N PHILLIPS - BETHAN JONES
CYFRANIAD EITHRIADOL I DELEDU - LYNWEN BRENNAN
RHAGLEN ADLONIANT-PRIODAS PUM MIL
DRAMA DELEDU-IN MY SKIN
NEWYDDION A MATERION CYFOES-THE UNIVERSAL CREDIT CRISIS
FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL- JONI CRAY AND GRUFFYDD DAVIES ar gyfer Anorac
RHAGLEN DDOGFEN SENGL- CRITICAL: INSIDE INTENSIVE CARE
FFILM FER- GIRL
GWOBR TORRI TRWODD- JAMIE JONES ar gyfer Obey
GOLYGU-MADOC ROBERTS ar gyfer Anorac
CYFARWYDDWR: FFEITHIOL- MEI WILLIAMS ar gyfer The Incurable Optimist
CYFRES FFEITHIOL- VELINDRE - HOSPITAL OF HOPE
SAIN- JULES DAVIES ar gyfer Anorac
CYFLWYNYDD - HUW STEPHENS ar gyfer Anorac
骋脢惭 - TIME CARNAGE VR
COLUR A GWALLT-Claire Williams ar gyfer Apostle
DYLUNIO CYNHYRCHU- CATRIN MEREDYDD ar gyfer Black Mirror: Bandersnatch
FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN - ADAM ETHERINGTON ar gyfer Gwen
CYFARWYDDWR: FFUGLEN-MARC EVANS ar gyfer Manhunt
FFILM NODWEDD/DELEDU-LAST SUMMER
AWDUR- RUSSELL T DAVIES ar gyfer A Very English Scandal
EFFEITHIAU ARBENNIG A GWELEDOL- BAIT STUDIO ar gyfer Apostle
RHAGLEN BLANT- GOING FOR GOLD
DYLUNIO GWISGOEDD-DINAH COLLIN ar gyfer Gwen
ACTORES- GABRIELLE CREEVEY fel Bethan Gwyndaf yn In My Skin
ACTOR- CELYN JONES fel Levi Bellfield yn Manhunt
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd6 Medi 2019