Elin Fflur: 'Gwneud unrhywbeth i gael teulu bach ein hunain'
- Cyhoeddwyd
Mae cael plant yn gallu bod yn broses hawdd i rai cyplau, ond yn broses hir a phoenus i eraill.
Rhywun sydd ar y daith o drio cael plentyn ar hyn o bryd yw'r gantores a chyflwynydd Elin Fflur.
Ar Ddydd Sul Medi 9, am 12:00, mae Elin yn sgwrsio gyda Beti George ar y rhaglen Beti a'i Phobol ar 91热爆 Radio Cymru.
Ar y rhaglen mae Elin yn esbonio i Beti pam ei bod wedi caniat谩u i gamer芒u i'w dilyn hi drwy'r broses IVF, ar gyfer rhaglen arbennig ar S4C. Fydd y rhaglen honno'n cael ei ddarlledu Ddydd Sul, Medi 9 am 21:00.
"Roedd o'n benderfyniad anodd ac eto'n rhywbeth eithaf hawdd. Dwi 'di arfer efo'r camer芒u o'n mlaen i wrth gwrs ond mae fy ng诺r i'n gweithio yn y byd adeiladu ac iddo fo falle o'dd o'n anoddach. Ond o'dd o bron mor bendant 芒 fi dros wneud hyn, achos mae o'n sgwrs sydd ddim cweit ddigon agored yn ein barn ni.
"'Da ni wedi teimlo'n unig iawn ar y daith yma, mae'r sgwrs yn dod i ben yn syth os 'da chi'n godi fo a dydi pobl ddim yn si诺r iawn sut mae ymateb pan 'da chi'n deud bo' chi methu cael plant a bo' ni'n mynd trwy IVF.
"Mae pawb yn delio efo sefyllfaoedd fel hyn yn ei ffyrdd eu hunain wrth gwrs, ac mae rhai pobl yn penderfynu cadw fo o fewn pedair wal, ac mae hynny'n berffaith iawn i rai.
"Ond oedden ni'n teimlo'n unig iawn, a dwi wastad wedi dweud bod hi'n llawer iawn gwell os 'da ni'n gallu rhannu profiadau a thrafod yr hyn 'da chi'n teimlo yn onest ac yn agored efo'ch gilydd i helpu'ch gilydd.
"Efo IVF 'da chi'n mynd drwy gyfnod mor anodd ac emosiynol, mae'r elfen iechyd meddwl yn dod i mewn iddo hefyd. Mae'n cael gymaint o effaith ar ein bywydau ni, felly os fysa fi a Jason [g诺r Elin] wedi gweld rhaglen fel hyn cyn cychwyn mi fysa fo 'di bod o help mawr i ni.
"Mae'r syniad o orfod chwistrelli'ch hun a gwneud y pigiadau bob bore eich hun yn ddigon i ddychryn rhywun, ond 'da ni ddim isho i bobl fod ofn - 'da ni'n gobeithio bydd pobol yn dysgu lot.
"Hefyd i rheiny sydd ddim yn gorfod mynd drwy IVF dwi'n gobeithio bydd o'n agoriad llygaid iddyn nhw gael gweld be' mae pobl yn gorfod mynd drwyddo i gael plant.
"Does 'na neb yn dymuno bod yn y sefyllfa yma yn amlwg, ond os allwn ni drwy ein stori bersonol ni helpu eraill, wel dwi'n teimlo bo' ni wedi cyflawni rhywbeth mawr yn ein bywydau."
Cefnogaeth y teulu
Dywed Elin bod hi a'i dau frawd wedi cael magwraeth ddelfrydol, a bod teulu yn ganolbwynt i'r cyfan.
"Ar yr adegau lle mae'r teulu yn dod at ei gilydd, fel y Nadolig neu'r Pasg - dwi'n caru'r amseroedd yna, ac mae gen i gefndryd sydd fel dau frawd i mi hefyd.
"Roedd y syniad 'ma ohonon ni gyd fel plant, i gyd efo'n gilydd yn chwarae a gwneud efo'n gilydd... o'n i wastad wedi edrych 'mlaen at hynny. Cael teulu mawr efo tri o blant, llond t欧. Dyna o'dd y ddelwedd o'dd gennai yn fy mhen o'r hyn fysa'n digwydd i ni.
"Drwy fynd drwy rywbeth fel hyn mae'r teulu'n mynd drwy'r daith efo chi. Mae'r gefnogaeth 'da ni'n cael gan y teulu yn amhrisiadwy a 'da ni'n ofnadwy o agos at ein teuluoedd, y ddwy ochr, ac mae hynny wedi bod yn gefn anferthol i ni ar adegau sy' 'di bod yn eitha anodd.
"Da ni wedi gallu cael sgyrsiau agored, gonest iawn efo'r teulu ac mae hynny wedi bod yn arbennig o bwysig i'r ddau ohonon ni.
Yr 'amser cywir 'i gael plentyn
"Ges i wybod [am anawsterau cael plant] pedair blynedd yn 么l. Mi ro'dd fy ngyrfa yn bwysig i mi ac o'n i wedi dechrau gweithio mewn byd sydd falle'n anodd gwybod pryd i ddod allan ohono i gael plentyn.
"Ond o'n i wastad yn gefn fy meddwl yn deud 'fydda i'n gwybod pryd fydd yr amser cywir', ar 么l gweithio'n galed a chael 'chydig bach o bres tu n么l i fi.
"Mae 'na ambell un wedi gofyn i mi os dwi'n difaru ei 'adael o bach rhy hwyr' achos mi o'n i bron yn 30 yn dod i'r penderfyniad yma.
"Ond dwi ddim yn mynd i ddifaru hynny achos mae gen i lot fawr i fod yn ddiolchgar ohono yn fy mywyd, a dwi'n teimlo mod i wedi cyrraedd lle arbennig yn fy ngyrfa a dwi'n diolch am hynny. Falla bod y broblem yma wedi bod gen i erioed, ac mae'n si诺r mai dyna ydy'r achos.
Darganfod y gwirionedd
"Da chi'n gorfod trio am ryw flwyddyn cyn mynd at y doctor. Aethon ni at y doctor, yna'r gynaecologist, a nhw'n deud y byddai rhaid cael triniaeth ddiagnostig, dan anesthetig, i edrych i mewn i be' oedd yn digwydd.
"Roedd hynny n么l ym Medi 2016. Nes i ddeffro o'r driniaeth a'r doctor yn gorfod dweud wrtha'i bod gen i ddim gobaith cael plant yn naturiol.
"Odd hwnna yn un o'r profiadau gwaetha' dwi'n meddwl achos oedd o fel rhoi'r full stop ar ddiwedd y frawddeg. Cau'r llyfr, dyna fo, doedd 'na ddim byd mwy i fod.
"Roedd yna ddiffygion yn y ddau diwb fallopian. Er fod fy sefyllfa i yn anobeithiol, be' oedd yn bositif i fi oedd 'mod nhw'n gwybod beth oedd y broblem. Mae lot fawr o bobl allan 'na sydd ddim yn gwybod pam bod nhw methu cael plentyn.
"Wedyn pan da chi'n mynd trwy IVF a ddim yn gwybod pam bo' chi methu beichiogi mae'n anodd iawn delio gyda'r broblem, mae wedyn yn 'awn ni amdani a gweld be ddaw'".
Triniaeth IVF
"Mae'r driniaeth yn dibynnu ar lle 'da chi'n byw i ddweud gwir, mae hi'n postcode lottery. Dwi ddim yn gwybod be' ydy'r sefyllfa ar draws Cymru gyfan, ond yn fy achos i nathon nhw drefnu dwy driniaeth i mi ar y Gwasanaeth Iechyd, yn Lerpwl gan mai fan'na oedd y clinig agosaf oedd yn cael ei gynnig i mi.
"Mi ges i'r driniaeth yn Lerpwl, ond doedd ddim yn llwyddiannus yn anffodus. Roeddwn i ar fin cychwyn yr ail pan ges i'r alwad ff么n i ddeud bod yna ddim cyllid i mi gario 'mlaen efo'r driniaeth.
"Roedd hi'n anodd iawn, ac yng nghanol wythnos Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys M么n. Roedd gymaint o bethau'n digwydd, o'n i'n delio gyda hynny a thrio darganfod sut i fynd 'mlaen. Wedyn ffeindio bysa'n rhaid i mi ailgofrestru ac wedyn ella aros blwyddyn i gael lle mewn clinig.
"Mae o'n anghyson iawn o ran sut mae IVF yn cael ei gynnig i bobl ar draws Prydain, achos yn rhai siroedd yn Lloegr maen nhw'n cael cynnig tair triniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd, ac mewn siroedd eraill 'di nhw'm yn cael dim!
"Dwi ddim yn licio gweld bai ar y Gwasanaeth Iechyd achos mae o'n rwbath ffantastig yma ym Mhrydain. Ond ar adegau fel hyn, 'da chi'n meddwl mai cysondeb sydd angen a bod un rheol i bawb, a phawb yn cael yr un tegwch. Dwi'n meddwl yn bendant bod angen edrych ar hynny."
Ail driniaeth
Fe dalodd Elin a Jason am yr ail driniaeth, cyn cael y newyddion torcalonnus eu bod nhw wedi colli'r babi yn fuan iawn yn y beichiogrwydd:
"Mae IVF fel rhes o hurdles, a 'da chi'n gorfod neidio dros un a chyflawni'r nesa'. Os oes rhywbeth yn mynd o'i le ar hyd y rhes yna o hurdles, dyna fo, mae rhaid dechrau eto neu ail-edrych ar y sefyllfa.
"Mi gafon ni'r canlyniad oedden ni isho, o'dd bron iawn yn neud o'n fwy poenus byth pan wnaeth o ddim yn gweithio allan.
"Ond mae IVF yn cynnig gobaith arbennig iawn i gyplau allan 'na fel fi a Jason, fysa'n gwneud unrhywbeth i gael teulu bach ein hunain."
Ydy Elin a Jason yn bwriadu mynd am driniaeth arall?
"Yndan, da ni am fynd amdani. Efo'r clinig preifat 'da ni efo mae 'na gynhigion gwahanol, felly wnaethon ni dalu am ddau dro mewn un.
"Mae ganddon ni'r un tro 'ma ar 么l, ac mae rhaid cofio'r positif i mi gymryd o'r driniaeth ddiwetha' sef bod fi wedi gallu beichiogi, er mor boenus oedd o yn y diwedd i golli'r baban.
Mabwysiadu?
"Mae'n sgwrs 'da ni wedi cael, wedi gorfod cael i ddweud gwir, achos mae rhaid bod yn realistig yn y sefyllfa yma. Dwi'n siarad efo chi yma yn meddwl 'fyddai'n iawn os 'dio'n dod i hynny', ond dwi ddim yn gwybod nacdw."
"Ond 'da ni yn cael y sgwrs yna, ac un peth dwi'n sicr ohono ydy mod i'n gwybod mod gen i a Jason ddigon o gariad i roi i blant na fyddo'n perthyn gwaed i ni. Yn ein bywydau, 'da ni'n caru pobl sydd ddim yn perthyn gwaed i ni dydan, ffrindiau a theulu yng nghyfraith...
"Ond y ffordd 'da ni'n byw ydy cam wrth gam, o ddydd i ddydd, a nawn ni groesi'r bont yna os 'da ni'n ei chyrraedd hi dwi'n meddwl."