Alun Cairns: 'Brexit am gryfhau'r Deyrnas Unedig'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Brexit yn gwneud y Deyrnas Unedig yn gryfach fel undeb o wledydd, yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Dywedodd Alun Cairns wrth gynhadledd y Blaid Geidwadol y bydd Brexit yn galluogi Cymru i gystadlu mewn marchnadoedd rhyngwladol ac i ddenu buddsoddiad.
Mae'n feirniadol hefyd o'r rhai sydd o blaid annibyniaeth i Gymru, gan ddweud na fyddai'n gallu dod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
Daw hyn wrth i Mr Cairns gyhoeddi buddsoddiad o 拢55m i economi Ceredigion a Phowys dros y 15 mlynedd nesaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr arian yn swm "pitw".
Cairns wedi'i 'gyffroi'
Yn 么l Mr Cairns bydd Brexit yn cryfhau'r berthynas rhwng gwledydd yr undeb, yn hytrach na'i rhoi dan straen fel mae rhai'n ei ddarogan.
Dywedodd Mr Cairns ei fod wedi ei "gyffroi" gyda'r syniad o'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
"Fe ydyn ni wedi ein cyffroi am y cyfleoedd rhyngwladol sydd yn bodoli, dwi'n meddwl y bydd y gwledydd ar draws y Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd yn agosach, ac yn gwerthfawrogi y gwerth sydd yna wrth ddod at ei gilydd," meddai.
Dywedodd Mr Cairns hefyd na fyddai Cymru yn gallu bod yn rhan o'r UE pe byddai'n wlad annibynnol.
"Mae gwledydd eraill ar draws Ewrop wedi dweud hynny am yr Alban. Bydd yr un peth yn wir am Gymru," meddai.
"Y realiti yw, ni fyddai Cymru yn cael ei gadael i mewn i'r Undeb Ewropeaidd fel gwlad annibynnol."
Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi 拢55m dros 15 mlynedd fel rhan o'r fargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru.
Y gobaith yw y bydd y cynllun gwerth 拢200m yn creu 4,000 o swyddi, ond fe fydd angen arian gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ynghyd 芒 buddsoddiad gan fusnesau.
Yn 么l llefarydd ar ran Ken Skates, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, mae'r ffigwr o 拢55m yn un "pitw" o'i gymharu 芒'r toriadau y mae'r llywodraeth Geidwadol yn Llundain wedi ei wneud yng nghanolbarth Cymru dros y ddegawd ddiwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2019
- Cyhoeddwyd7 Medi 2019