91热爆

Gwrthbleidiau'n 'taflu baw' i rwystro proses Brexit

  • Cyhoeddwyd
Boris Johnson a Paul Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Paul Davies gefnogi Boris Johnson i fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol

Mae'r gwrthbleidiau'n ceisio "taflu baw" at y Ceidwadwyr mewn ymgais i rwystro'r broses Brexit, yn 么l arweinydd Cymreig y blaid.

Dywedodd Paul Davies, arweinydd y blaid yn y Cynulliad bod hi'n "glir bod pobl Cymru eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yng nghynhadledd y blaid ym Manceinion, fe gefnogodd alwad y Prif Weinidog, Boris Johnson "i wireddu Brexit".

Mae'r DU i fod i adael yr UE ar 31 Hydref.

"Fel plaid, rydym wedi bod yn hollol glir ein bod eisiau parchu canlyniad y refferendwm a dyna pam y mae'r prif weinidog wedi gwneud hi'n glir y byddan ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref," meddai Mr Davies.

"Mae'r pleidiau gwleidyddol yn ceisio taflu mwd atom ni ar bob cyfle i geisio rhwystro'r broses Brexit, ond mae pobl Cymru wedi gwneud y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ac mae'n rhaid i ni nawr fynd ati i wneud hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yna orymdaith yn erbyn Brexit yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn

Mae Mr Johnson wedi dweud y byddai'n well ganddo ddod i gytundeb gyda'r UE ond ei fod yn barod i adael yr undeb heb gytundeb.

Ond fe bleidleisiodd y Senedd o blaid deddfwriaeth yn gynharach ym mis Medi yn atal Brexit digytundeb.

Mae'n golygu bod angen i lywodraeth leiafrifol Mr Johnson gael cytundeb trwy D欧'r Cyffredin erbyn 19 Hydref neu berswadio ASau i gefnogi Brexit digytundeb i osgoi gorfod gofyn i'r UE Ewropeaidd i estyn dyddiad ymadael y DU i 31 Ionawr 2020.

"Addasu i fywyd" wedi Brexit

Roedd Mr Davies wedi dweud cyn y gynhadledd bod "rhaid i ni wireddu Brexit er mwyn gallu canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i bobl.

Ychwanegodd: "Rydym ni yn credu bod pobl Cymru yn gallu derbyn yr her o addasu i fywyd tu allan i'r UE a bod gan Gymru a DU ddyfodol disglair unwaith ein bod ni'n gadael y UE."

Mae'r blaid yn dod at ei gilydd ym Manceinion er i Aelodau Seneddol wrthod cais gan y Llywodraeth am doriad o dri diwrnod i gynnal y gynhadledd.

Roedd y blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi cael eu cynadleddau blynyddol tra bod y Senedd wedi ei hatal.

Fe ddychwelodd ASau i San Steffan ddydd Mercher wedi i'r Goruchaf Lys benderfynu bod cau'r Senedd yn erbyn y gyfraith.