Prif Weinidog Cymru'n galw am ddiwygio'r DU
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru yn galw am Undeb newydd i ddod 芒 phedair gwlad y Deyrnas Unedig ynghyd.
Mewn araith i gynhadledd y blaid Lafur yn Brighton ddydd Sul, fe alwodd Mr Drakeford am ddiwygio'r Deyrnas Unedig.
Dywedodd fod yr hyn sy'n uno pedair gwlad y DU yn cael ei rwygo gan Brexit a gan lywodraethau Ceidwadol sydd yn "poeni dim".
Dyma oedd y gynhadledd gyntaf i Mark Drakeford fynychu fel arweinydd Llafur Cymru ac fel Prif Weinidog.
Mae Mr Drakeford wedi dweud yn ddiweddar bod annibyniaeth i Gymru yn 'codi yn uwch ar yr agenda gwleidyddol'.
'Gweledigaeth Amgen'
Yn ei araith ddydd Sul, fe wnaeth Mr Drakeford ddatgelu manylion cynllun ar sut y byddai'n diwygio'r Undeb, gan ddweud:
"I oroesi, mae'n rhaid i Lafur, a dim ond Llafur, ddangos gweledigaeth amgen i'r rheini sydd yn troi eu cefnau ar wleidyddiaeth wenwynig sy'n rhannu ac yn creu anobaith.
"Mae'n rhaid i ni fel llywodraeth DU Lafur adeiladu Teyrnas Unedig newydd. Un sydd wirioneddol yn gweithio i'r pedair rhan."
Dywedodd hefyd drwy ddiwygio'r DU ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd fe allai'r blaid Lafur gynnig dewis arall i "genedlaetholdeb cul ac imperialaeth sydd wedi blino".
Fe wnaeth ailadrodd ei ddatganiad y byddai Llafur Cymru yn ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd petai yna ail refferendwm ar Brexit neu Etholiad Cyffredinol.
Mae'r farn yma'n gwrthwynebu safbwynt y blaid genedlaethol ar Brexit.
Yn 么l Jeremy Corbyn, fe fyddai ei blaid yn sicrhau eu bod yn gweithredu ar yr hyn mae'r wlad yn penderfynu os byddai ail refferendwm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019