Safbwynt Brexit Mark Drakeford yn 'ddryslyd'
- Cyhoeddwyd
Mae safbwynt Prif Weinidog Cymru ar Brexit yn "ddryslyd" ac yn "anghynaladwy", yn 么l aelod o Llafur Cymru.
Dywedodd Mark Drakefordd ddydd Mercher ein bod ni'n agos iawn at gyrraedd y pwynt lle dylid galw refferendwm arall.
Ond mynnodd arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru mai'r flaenoriaeth yw rhoi digon o amser i Aelodau Seneddol gyrraedd consensws ar y cytundeb Brexit.
Yn 么l ffynhonnell o fewn y blaid, sydd am aros yn ddienw, "dylai Mr Drakeford fod yn gliriach wrth alw am refferendwm arall".
Daw'r sylwadau wrth i'r Prif Weinidog, Theresa May geisio perswadio ASau bleidleisio o blaid ei chytundeb Brexit am y trydydd tro.
Bydd pleidlais ar ei chynnig diweddaraf yn cael ei gynnal cyn 20 Mawrth, ar 么l i ASau bleidleisio o blaid gofyn am ganiat芒d yr Undeb Ewropeaidd i oedi ar y broses o adael.
'Achosi tensiwn'
Dywedodd y ffynhonnell bod diffyg eglurder Mr Drakeford mewn cyfnod mor bwysig yn y broses o adael yr UE yn "achosi tensiwn o fewn cabinet Llywodraeth Cymru".
"Dydi hi ddim yn gynaliadwy i ddweud nad yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid, er bod cymaint wedi newid dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf," meddai.
"Mae ei safbwynt yn ddryslyd. Mae'n rhaid iddo fod yn gliriach wrth alw am refferendwm arall."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2019