Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Beirniadu diffyg tai bach ar drenau Metro De Cymru
Mae diffyg toiledau ar drenau newydd fydd yn gwasanaethu cymoedd y de yn groes i hawliau dynol, medd teithiwr 芒 chyflwr sy'n golygu bod rhaid mynd i'r t欧 bach yn amlach na'r cyfryw.
Mae'r tramiau'n rhan o gynllun Metro De Cymru, sy'n werth 拢738m, sydd i fod i ddechrau yn 2022.
Ond bydd yn rhaid i'r miloedd o deithwyr rhwng Caerdydd, Treherbert, Aberd芒r, Merthyr Tudful, Rhymni a Coryton ddefnyddio tai bach gorsafoedd y gwasanaeth.
Dywed Trafnidiaeth Cymru bod toiledau ddim yn ffitio o fewn y trenau newydd ond bydd yna welliannau i dai bach gorsafoedd.
'Mae'n eich dad-ddynoli'
Mae'r sefyllfa'n destun pryder i Ben Marriott, 33, sy'n byw gyda llid briwol y colon (ulcerative colitis) - math o glefyd llid y coluddyn (IBD) sy'n golygu bod angen mynd i'r t欧 bach hyd at 40 gwaith y diwrnod.
Mae'n teithio'n rheolaidd o Gaerdydd i ymweld 芒'i deulu yn Aberd芒r, ond mae'n dweud y bydd yn amhosib gwneud hynny ar drenau heb doiledau.
"'Dach chi byth yn gwybod pa bryd fyddech chi angen y t欧 bach," meddai.
"Mae'n eich dad-ddynoli, meddwl am orfod gwneud y siwrne yna heb d欧 bach. Byddwn i ond yn gallu defnyddio trenau gyda thoiledau."
Dywed Trafnidiaeth Cymru eu bod yn buddsoddi mewn gwella adnoddau mewn gorsafoedd gan sicrhau bod teithwyr "byth yn fwy na 14 o funudau" o d欧 bach.
'Gwneud gwahaniaeth anferthol'
Ond yn 么l Mr Marriott fe fydd diffyg tai bach ar drenau yn atal pobl rhag eu defnyddio "gan eu hynysu yn y cymoedd".
Ychwanegodd: "Mae'n drist oherwydd mae'n rhywbeth mor syml a fyddai'n gwneud gwahaniaeth anferthol i ansawdd bywydau pobl. Mae'n gynllun gwael."
'Mae AC Rhondda a chyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi codi'r mater gyda'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gan boeni y bydd yn achosi trafferthion i unigolion sy'n s芒l, beichiog, oedrannus neu 芒 chyflwr meddygol.
"Mae'n syniad gwirioneddol ddrwg," meddai.
"Bydd rhai pobl yn teithio am dros awr ar y tr锚n.
"Dyw hi ddim yn ymarferol i adael y tr锚n mewn gorsaf ac aros am ba bynnag amser i'r tr锚n nesaf gyrraedd."
Yn 么l y gr诺p Railfuture Wales, sy'n ymgyrchu ar ran teithwyr, mae'r sefyllfa'n "gam yn 么l".
"Rydym yn falch y bydd yna welliannau mewn gorsafoedd [ond] mae disgwyl i bobl deithio heb doiledau am awr yn destun pryder," meddai'r cadeirydd, Peter Kingsbury.
"Mae profiad yn dangos bod e'n hawdd i doiledau gorsafoedd gael eu fandaleiddio, gan fydd llawer o orsafoedd heb staff. Cloi'r toiledau oedd yr ateb i hynny."
Dywed Trafnidiaeth Cymru na fydd toiledau'n ffitio ar drenau newydd Metro De Cymru am eu bod yn "ysgafnach ac yn fwy cul" na'r trenau arferol sydd yn ninasoedd eraill yn y DU.
Ychwanegodd y prif weithredwr, James Price: "Bydden ni'n gweithio'n agos gyda mudiadau'r anabl i ddatblygu ein cynlluniau."