KeolisAmey yn datgelu eu cynlluniau ar y rheilffyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae gweithredwyr newydd gwasanaethau tr锚n Cymru a'r Gororau yn dweud y byddant yn gwario 拢800m ar drenau newydd.
Wrth ddatgelu eu cynlluniau dywed cwmni KeolisAmey, a enillodd y cytundeb 拢5bn fis diwethaf, y bydd 95% o'r teithiau ar drenau newydd o fewn pum mlynedd.
Hefyd bydd pedair gorsaf newydd yng Nghaerdydd fel rhan o Fetro De Cymru.
Yn ogystal bydd y cwmni yn recriwtio 600 yn ychwanegol o staff.
Bydd y cwmni yn dechrau ar ei waith ym mis Hydref ac mae'r cytundeb yn para 15 mlynedd.
Bydd y trenau, tramiau a'r bysys newydd yn goch a du - ac yn cario'r enw TfW (Transport of Wales) yn hytrach na logo'r cwmni.
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud ei bod yn "foment hanesyddol".
Be mae'r cyfan yn ei olygu?
Erbyn 2023 fydd 'na ddim un o'r hen drenau yn weithredol - ac erbyn hynny bydd 95% o deithiau ar drenau newydd sbon.
Bydd 拢1.9bn yn cael ei wario ar wella profiad teithwyr - 拢800m ar drenau ac ar wasanaethau.
Bydd 拢194m yn cael ei wario ar foderneiddio 247 o orsafoedd a chreu pedair gorsaf Metro yng Nghaerdydd - Gabalfa, Heol Crwys, Sgw芒r Loudoun yn Nhrebiwt a 'The Flourish' ym Mae Caerdydd.
Bydd 600 o staff ychwanegol yn cael eu recriwtio a bydd 2,200 o staff yn cael eu trosglwyddo o gwmni Arriva. Yn ogystal bydd 30 prentis newydd am bob blwyddyn o'r cytundeb.
O fis Rhagfyr 2018 bydd mwy o bobl yn gallu teithio ar reilffyrdd y cymoedd a bydd gwasanaethau newydd rhwng Caer a Lerpwl.
Erbyn diwedd 2023 bydd 285 o wasanaethau yn ychwanegol bob dydd ar draws Cymru (cynnydd o 29%). Mae disgwyl i reilffyrdd Glynebwy, Wrecsam-Bidston, y Cambrian a Chalon Cymru elwa.
Bydd cynnydd o 61% o wasanaethau ar y Sul a 294 gwasanaeth yn ychwanegol ar draws Cymru i greu "gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos".
Bydd y system 'glyfar' o werthu tocynnau yn cynnwys prisiau hyblyg ac fe fydd prisiau rhatach ar adegau tawel yn cael eu cyflwyno yng ngogledd Cymru ac yn hanner o orsafoedd y cymoedd.
Mae disgwyl i fap newydd y trenau, gan gynnwys y cynigion ar gyfer Metro De Cymru, gael ei gyhoeddi ddydd Llun yn Nhrefforest.
Mae'r gweithredwyr newydd yn dweud na fydd y newidiadau yn digwydd dros nos ond o fewn pum mlynedd "fydd dim posib adnabod system rheilffordd Cymru".
Dyletswyddau KeolisAmey
Mae disgwyl i KeolisAmey gyflwyno Metro De Cymru a gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Caerdydd, y cymoedd a thu hwnt - fel rhan o gytundeb a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n cynnwys cymryd cyfrifoldeb am 124 milltir o reilffyrdd y cymoedd gan Network Rail.
Her arall fydd cyflwyno trenau newydd a datrys problemau gorlenwi wrth i'r galw am y gwasanaeth gynyddu.
Dywedodd y prif weinidog: "Mae pobl wedi dweud eu bod eisiau prisiau fforddiadwy, trenau glanach a mwy newydd ac ry'n wedi gweithio'n galed er mwyn gwneud yn si诺r bod hynny yn cael ei adlewyrchu yn yr hyn sy'n cael ei lansio heddiw."
Mae KeolisAmey eisoes yn rhedeg Metrolink Manceinion a Rheilffordd Dociau Llundain, ymhlith gwasanaethau eraill.
Creu gwaith
Mae'r cynlluniau yn cynnwys y gwaith o gydosod y trenau yng Nghymru.
Yn 么l Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates "rhaid gwneud y mwyaf o bob cyfle datblygu economaidd" y mae'r fasnachfraint yn ei gynnig.
Mae cwmni gwneud trenau o Sbaen eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i godi ffatri yng Nghasnewydd gan greu 300 o swyddi.
Dywedodd Alistair Gordon, prif weithredwr Keolis UK: "Am yn rhy hir mae rheilffyrdd Cymru wedi dioddef o danfuddsoddi. Bydd ein cynlluniau yn cymryd amser ond fe fyddwn yn creu llwyfan ar gyfer twf economaidd ac fe fydd Cymru gyfan yn elwa nawr ac am genedlaethau i ddod."
Dywedodd James Price, prif weithredwr TfW: "Mae hwn yn fwy na buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau rheilffyrdd - mae'n fuddsoddiad ar gyfer llwyddiant Cymru yn y dyfodol."
Bydd y cwmni newydd yn sicrhau fod pob gorsaf yn defnyddio ynni adnewyddadwy ac yn ogystal bydd cypyrddau addas ar gyfer seiclwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018
- Cyhoeddwyd14 Mai 2018
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2017