Carfan Cwpan Rygbi'r Byd: Gatland yn dewis Patchell
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi enwi carfan rygbi Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Japan.
Mae'r maswr Rhys Patchell wedi sicrhau lle yn y garfan ar 么l perfformad da yn y g锚m yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn.
Does dim lle felly i Jarrod Evans, maswr y Gleision. Does dim lle chwaith i Owen Lane, sgoriwr cais cyntaf Cymru yn Stadiwm Principality ddoe.
Ymhlith y chwaraewyr eraill fydd yn siomedig mae Samson Lee, Rob Evans, a Scott Williams.
Yn fwy ffodus efallai - y clo Cory Hill sydd yn y garfan er ei fod wedi torri asgwrn yn ei goes, ac yn annhebygol o fod ar gael i chwarae i Gymru yn eu gemau agoriadol yn erbyn Georgia ac Awstralia.
Mae 5 prop yn y garfan gan gynnwys Rhys Carre o'r Saracens. Fe enillodd Carre ei gap cyntaf i Gymru dydd Sadwrn.
Blaenwyr
Jake Ball - Scarlets
Adam Beard - Gweilch
Rhys Carre - Saracens
James Davies - Scarlets
Elliot Dee - Dreigiau
Ryan Elias - Scarlets
Tomas Francis - Caerwysg/ Exeter Chiefs
Cory Hill - Dreigiau
Alun Wyn Jones - Gweilch
Wyn Jones - Scarlets
Dillon Lewis - Gleision
Ross Moriarty - Dreigiau
Josh Navidi - Gleision
Ken Owens - Scarlets
Aaron Shingler - Scarlets
Nicky Smith - Gweilch
Justin Tipuric - Gweilch
Aaron Wainwright - Dreigiau
Olwyr
Josh Adams - Gleision
Hallam Amos - Gleision
Dan Biggar - Northampton
Aled Davies - Gweilch
Gareth Davies - Scarlets
Jonathan Davies - Scarlets
Leigh Halfpenny - Scarlets
George North - Gweilch
Hadleigh Parkes - Scarlets
Rhys Patchell - Scarlets
Owen Watkin - Gweilch
Tomos Williams - Gleision
Liam Williams - Saracens