Cymru 17-22 Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Ar 么l ennill yr 11 g锚m ddiwethaf yng Nghaerdydd, mae Cymru wedi colli g锚m ryngwladol yn y brifddinas.
Roedd hi'n hanner cyntaf siomedig i Gymru wrth i'r Gwyddelod reoli llawer o'r chwarae, ond fe frwydrodd Cymru yn 么l yn yr ail hanner.
Ar 么l cyfnewid un gic cosb yr un, fe ddaeth cais i Iwerddon ar 么l 17 munud.
Asgellwr chwith y Gwyddelod, Jacob Stockdale oedd y sgoriwr, yn dilyn rhediad yr asgellwr arall, Andrew Conway.
Deg munud yn ddiweddarach fe fanteisiodd Stockdale ar gamgymeriad Aaron Shingler, ac ar 么l cicio'r bel o hanner ffordd fe redodd yr holl ffordd i sgorio ei ail gais.
Yn yr ail hanner roedd yna lawer o newidiadau wrth i Rhys Patchell gymryd lle y maswr Jarrod Evans.
Ond fe wnaeth trafferthion Cymru barhau am gyfnod, wrth i'r eilydd Leon Brown gael cerdyn melyn ar 么l 51 munud - ac ar 么l rhai munudau o bwyso sgoriodd Iwerddon gais cosb.
Daeth cais cyntaf Cymru ar 么l 63 munud, Owen Lane yn dathlu ei gap cyntaf gyda chais.
Fe ysgogodd hynny gyfnod gorau Cymru, a chais gan Rhys Patchell ar ol 75 munud.
Ond fe wnaeth amddiffyn ystyfnig Iwerddon atal unrhyw sgorio pellach gan y Cymry.
Bydd Warren Gatland yn cyhoeddi pwy fydd yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd dydd Sul.