91热爆

Y m么r-ladron Cymreig

  • Cyhoeddwyd

Gyda chymaint o arfordir o'i chwmpas mae Cymru wedi cynhyrchu rhai o longwyr a hwylwyr gorau'r byd.

Ond ar un cyfnod roedd ein gwlad fach yn adnabyddus am fagu m么r-ladron a oedd yn gyrru ias lawr cefnau criwiau llongau masnach ar draws y byd.

Ffynhonnell y llun, Wiki/Commons
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bartholomew Roberts - neu Barti Ddu

Barti Ddu

Un o'r enwocaf un ohonynt oedd Bartholomew Roberts, neu Barti Ddu fel rydyn ni'n ei adnabod.

Ganwyd ef yn Nghasnewydd Bach, Penfro yn 1682 a'r enw roddodd ei fam a'i dad arno oedd John Roberts. Does neb yn gwybod pam y newidiodd ei enw o John i Bartholomew ond mi roedd yn arfer ymysg m么r-ladron bryd hynny i gymryd ffugenw. Ond ni chafodd yr enw 'Barti Ddu' ei ddefnyddio amdano yn ystod ei fywyd.

Mae'n debyg iddo fynd i'r m么r pan oedd yn 13 oed a daeth yn llongwr da. Yn 1719, roedd yn ail f锚t ar long oedd yn cludo caethweision o Affrica. Pan oedd y llong wedi'i hangori ar arfodir gorllewin Affrica ymosododd m么r-leidr arall o Gymru Hywel Davies arni.

Roedd Hywel Davies o Aberdaugleddau, wedi bod yn dwyn llongau ers tua 11 mis ac wedi cael cryn hwyl arni. Wedi cipio'r llong gorfododd Hywel Davies i Bartholomew ymuno 芒'i griw o f么r-ladron a dyna a wnaeth.

Ffynhonnell y llun, Wiki/Commons
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hywel Davies ar gerdyn sigar茅ts

Ond chwe wythnos wedyn cafodd Hywel ei saethu'n farw pan ar y ffordd i yfed gwinoedd gyda llywodraethwyr Portiwgal. Yn syth roedd rhaid cael capten newydd i'w long a daeth Barti Ddu i'r adwy ac ar long y Royal Fortune cychwynnodd Barti ei 'yrfa' ryfeddol ac enwog.

Yn araf aeth enw Bartholomew Roberts yn gyffredin iawn ar ddeciau llongau'r byd. Un tro mi hwyliodd i ganol llynges o 42 o longau, dwyn carcharor oddi ar un llong a gorfodi'r creadur hwnnw i ddweud pa long oedd y mwyaf gwerthfawr cyn ei dwyn a chilio dros y gorwel.

Cymaint oedd y s么n amdano nes i bob un o griwiau 22 o longau redeg i ffwrdd o harbwr yn Newfoundland ar 么l clywed bod y Cymro wedi glanio yno.

Credai rhai mai'r rheswm dros ei lwyddiant fel m么r-leidr oedd ei fod yn cadw trefn a disgyblaeth dda iawn ar ei griw, ac yn gwahardd yfed unrhyw ddiodydd meddwol pan allan ar y m么r.

Ar un o'i longau y chwifwyd y faner Penglog ac Esgyrn am y tro cyntaf; cyn hynny roedd ganddo luniau o angau a phenglogau ar ei faner ei hun.

Ffynhonnell y llun, Wiki/Commons
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o faneri Barti Ddu, yn ei ddangos yn sefyll ar benglog rhywun o Barbados a Martinique

Erbyn 1722 roedd Barti wedi dwyn 470 o longau, y mwyaf erioed yn hanes m么r-ladron ac roedd awdurdodau'r byd wedi cael llond bol ar y Cymro cythryblus.

Y flwyddyn honno er mwyn ceisio ei ddal anfonodd llynges Lloegr long ryfel, HMS Swallow, i fynd ar ei 么l. Yn ymyl Cape Lopez, yng nghanolbarth Affrica fe ddaeth ar draws y Royal Fortune, cwch y Cymro, a bu ymladd mawr rhwng y ddwy.

Wrth i Bartholomew Roberts sefyll ar fwrdd ei long yn annog ei griw i ymladd ymlaen, cafodd ei daro yn ei wddf gan fwled a bu farw yn y fan a'r lle. Taflwyd ei gorff i'r m么r yn 么l ei ddymuniad.

Wedi colli eu capten, ildiodd gweddill y criw i'r awdurdodau a chafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu crogi.

Mae enwau Barti Ddu a Hywel Davies yn parhau i deithio'r byd gan fod y g锚m gyfrifiadurol boblogaidd Assasin's Creed IV: Black Flag o 2013 yn cyfeirio at Hywel pan mae ei long yn cael ei dilyn gan y cymeriad Edward Kenway pan oedd hwnnw'n chwilio am Barti Ddu.

Tomos Prys

Ganwyd Tomos tua 1564 i deulu cefnog ym Mhlas Iolyn, Sir Ddinbych ond er bod gan ei deulu hanes fel perchnogion tir llwyddiannus, roedd tynfa'r m么r yn ormod iddo. Am gyfnod bu'n ymladd yn rhyfeloedd yr Iseldiroedd dan Iarll Leicester a bu hefyd, yn 24 oed, yn y fyddin yn gwrthwynebu Armada Sbaen yn 1588.

Ffynhonnell y llun, Wiki/Commons
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tomos Prys

Treuliodd flynyddoedd lawer fel m么r-leidr ac roedd hefyd yn fardd, ac mae cerdd ganddo, Mynd i'r M么r, yn dweud ei hanes yn prynu llong ac yn mynd i ladrata ac ysbeilio ar arfordir Sbaen.

Tomos Prys a'i gyfaill Gwilym 'Canol Dref' o Lansannan, oedd y dynion cyntaf a feiddiodd i ysmygu baco, ar ffurf sig芒rs, yn gyhoeddus ym Mhrydain. Ar strydoedd Llundain y digwyddodd hynny, yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, a bu beirniadu mawr arnyn nhw.

Bu'n byw ar Ynys Enlli am ychydig, priododd ddwywaith ac roedd ganddo 13 o blant i gyd. Yn wahanol i lawer o f么r-ladron eraill, marw ar y tir sych wnaeth Tomos Prys.

Harri Morgan

Daeth Harri Morgan (neu Henry Morgan, ei enw bedydd) yn adnabyddus drwy'r byd am ei ymosodiadau ffyrnig ar longau o Sbaen yn y Carib卯. Ganwyd ef yn 1635 yn Llanrhymni, Caerdydd neu ym Mhencarn, Sir Fynwy.

Dysgodd Harri ei grefft o ymosod ar longau eraill drwy gael trwydded gan Lywodraeth Lloegr i fod yn breifat卯r (rhywun a g芒i ei gyflogi adeg o ryfel gan lywodraeth un wlad i ymosod ar longau gwlad arall i ddwyn eu cyfoeth, arfau ac yn y blaen).

Ffynhonnell y llun, Wiki/Commons
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Harri Morgan

Yn 1655 cyrhaeddodd Barbados dan orchymyn Oliver Cromwell. Yno priododd ei gyfnither oedd yno'n gweithio fel Is-Lywodraethwr.

Yn ogystal ag ymosod ar a chipio llongau o Sbaen roedd hefyd yn ysbeilio trefi ar arfordir Mecsico, Panama a Chiwba. Yn 1668 cipiodd dinas Portobello ym Mhanama gyda llynges a byddin o tua 450 o filwyr. Treuliodd bythefnos gyfan yn dwyn ei thrysorau.

Hanes tebyg oedd pan gipiodd ddinas Panama ei hun. Cyrhaeddodd Harri Morgan yr arfordir gyda 36 llong a bu rhaid iddynt gerdded dros y mynyddoedd a thrwy'r jyngl garw er mwyn cyrraedd y ddinas. Ar 么l cymryd y ddinas, fe'i rhoddodd ar d芒n cyn troi am adref gydag aur, arian, gemau a channoedd o gaethweision.

Bu farw o achosion naturiol yn 25 Awst, 1688. Claddwyd ef yn Palisadoes, Jamaica, ond diflannodd y dref i'r m么r wedi daeargryn mawr yn 1692. Er bod digon o luniau wedi eu tynnu ohono dros y canrifoedd gan arlunwyr di-ri, y llun enwocaf yw hwnnw ar y poteli Captain Morgan Rum.

Ffynhonnell y llun, SOPA Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y r峄砿 sydd wedi ei enwi ar 么l Harri Morgan yw un o r峄砿s mwyaf poblogaidd y byd

Biwmares

Roedd Biwmares ar un cyfnod yn lle enwog iawn am f么r-ladron a smyglo ac ati.

Priododd merch William Bulkeley, y dyddiadurwr a'r tirfeddiannwr cefnog o Fiwmares, breifat卯r o'r enw Fortunatus Wright a ddaeth yn enw mawr yn ystod y 1700au ac mae hanesion amdano'n cipio llongau o Ffrainc a Thwrci.

Mae dyddiaduron William Bulkeley o'r cyfnod yn nodi mai dyn cas iawn oedd Fortunatus a'i fod yn ffiaidd iawn tuag at ei wraig, merch William.

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Biwmares tua 1750

Yn dilyn helyntion ar y m么r gyda Fortunatus a honiadau nad oedd bod yn breifat卯r yn ddim gwahanol i fod yn f么r-leidr wedi ei noddi gan y wlad, daeth yr arfer i ben yng nghanol y 1800au.

Ar drwyn o dir ar y ffordd i mewn i Fiwmares o Borthaethwy gosodwyd caets haearn ar bolyn mawr. Pe bai m么r-leidr yn cael ei ddal mi fyddai'n cael ei grogi a'i gorff yn cael ei roi yn y caets i'w fwyta gan frain, fel rhybudd i f么r-ladron eraill. Gallow's Point yw'r enw hyd heddiw ar y lle.

Hefyd o ddiddordeb: