91热爆

Angen i Gymru 'gredu yn ei hun' meddai cyfarwyddwr Microsoft

  • Cyhoeddwyd
Daniel Sumner

Mae un o gyfarwyddwyr cwmni Microsoft wedi bod n么l i'w hen filltir sgw芒r ar Ynys M么n i ledu'r neges bod rhaid i Gymru gredu yn ei hun yn y maes technoleg - a helpu ei hun i lwyddo.

Daw Daniel Sumner o Lanfachraeth ym M么n yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Seattle yn yr Unol Daleithiau ac yn gyfarwyddwr byd-eang i Microsoft, yn gyfrifol am arloesedd yn y sector cyhoeddus.

Taniodd ei ddiddordeb yn y byd cyfrifiadurol tra roedd yn Ysgol Uwchradd Bodedern ac wedi 20 mlynedd yn y maes mae wedi ennill aelodaeth o Glwb Platinwm Microsoft, sef cydnabyddiaeth uchaf y cwmni i'w staff.

Mae'n teithio'r byd yn helpu dinasoedd mawr a chymunedau bach i fanteisio ar y dechnoleg sydd ar gael.

Daeth n么l i Gymru i gymryd rhan mewn cynhadledd wedi ei threfnu gan Hwb Menter M么n.

Wrth siarad gyda Gari Wyn ar Radio Cymru dywedodd y byddai wrth ei fodd yn gallu gwneud mwy yn ei hen fro, a helpu gyda datblygu technoleg Gymraeg hefyd.

Does dim rheswm, meddai, pam na all Cymru ddatblygu'r diwydiant yma - mae'r un systemau cyfrifiadurol a rhwydweithio i'w cael yng Nghymru ag unrhyw le arall yn y byd.

"Does na ddim gwahaniaeth efo'r technoleg, felly pam lai nad ydyn ni'n cael mwy o gwmn茂au technoleg yng Nghymru? Pam nad ydyn ni'n gallu gwneud mwy? Dwi'n credu ein bod ni yn gallu gwneud mwy," meddai.

"Y peth mwya' pwysig ydy sgiliau, a bod pobl yn coelio eu bod nhw'n gallu gwneud pethau fel hyn.

Angen newid meddylfryd

"Blynyddoedd yn 么l nes i fynd n么l rownd ysgolion yr ardal a nes i siarad am robotics a phethau felly.

"Doedd y plant ddim yn coelio mod i o Ynys M么n. Doedden nhw ddim yn coelio bod hi'n bosib i rywun sy'n mynd i'r ysgol yma allu gweithio i Microsoft.

"Dydi hynny ddim yn iawn - ddylan nhw feddwl bod nhw'n gallu gwneud hynna, os ydyn nhw eisiau.

"Mae pobl yn meddwl 'dim fi', 'does gen i ddim siawns o wneud hynna', 'mae 'na bobl gwell'. Wel, mae 'na bobl sydd 芒 graddau gwell na fi.

"Roedd 'na bobl efo graddau gwell na fi yn yr ysgol, oedd 'na bobl sy'n gallu gwneud mwy, ond I wanted it more - ro'n i isho fo mwy!

"Rhaid inni gredu yn ein hunain mwy a [chredu] bod ein pobl ifanc ni yn gallu gwneud gwaith fel hyn - pam lai?"

Gweithio'n galed - a chredu

Yn fwy na hynny, meddai, mae angen inni gredu ei bod yn bosib ei wneud yma, yng Nghymru.

"'Dach chi'n gweld be sydd wedi digwydd yn India efo technoleg... y gwahaniaeth ydy bod y bobl yn meddwl bod nhw'n gallu wneud o. Maen nhw'n codi yn y bore, maen nhw'n gweithio'n galed iawn i ddysgu technoleg newydd.

"Ond maen nhw'n coelio bod nhw'n gallu neud o - a maen nhw."

Nid y dechnoleg ei hun sy'n bwysig meddai Daniel Sumner - dod at ein gilydd fel cymunedau yw'r gyfrinach.

"Mae gynnon ni [Microsoft] llawer o bethau sy'n gallu helpu, ond dwi eisiau i bobl allu helpu eu hunain a dweud y gwir.

"Mae gynnon ni dechnoleg, mae gennym ni gyfrifiaduron, a software a bob math o bethau y gallwch eu defnyddio ond y peth ydi mae'n rhaid inni gael pobl i ddod mwy at ei gilydd, dros y gymdeithas.

"Pobl technoleg, pobl academaidd, pobl sy'n ffermio, pobl fusnes - mae'n rhaid iddyn nhw ddod at ei gilydd.

"Pan ydan ni'n edrych ar rywle fel Silicon Valley neu rywle fel'na, y mwya' aml mae pobl yn dod at ei gilydd y mwya' aml mae syniadau yn datblygu ac y mwya' aml mae busnes newydd yn cael ei ddatblygu."

Mae gan Gymru gyfle i weithio yn y maes digidol a thechnolegol meddai Daniel Sumner, ac mae'n awyddus i wneud mwy i helpu ei ardal enedigol a helpu unrhyw un sydd eisiau arweiniad ganddo.

"Dwi eisiau gwneud mwy o waith i'r ardal yma, dwi'n gwneud y gwaith dros y byd - fyswn i'n hoffi gwneud ychydig bach mwy efo fy nghartref," meddai.

Mae datblygu mwy o wasanaethau Microsoft drwy gyfrwng y Gymraeg yn brosiect arall sy'n agos at ei galon - mae wedi helpu i greu fersiynau Cymraeg o raglenni fel Office a Word yn barod, ond fe hoffai wneud mwy a chlywed gan siaradwyr Cymraeg.

"Fyswn i'n hoffi gwneud mwy ond 'swn i'n hoffi gwybod beth mae pobl eisiau ar y funud, a beth 'nesa yn Gymraeg.

"Beth mae pobl eisiau wneud ac eisiau ei weld [yn digwydd]? Fyswn i'n hoffi gwybod mwy."

Ei angerdd dros y maes a'i awydd i ddysgu pethau newydd sy'n gyfrifol am ei lwyddiant meddai Mr Sumner ac mae'n dal i gadw mewn cof y neges ysgrifennodd athrawes yn yr ysgol iddo mewn cerdyn - 'gwna dy orau'.

Ond mae'n cyfaddef, er ei lwyddiant a'i swydd uchel yn un o gwmn茂au technoleg mwya'r byd, ei fod yn dal yn cwestiynu ei lwyddiant weithiau.

"Dwi'n syffro o imposter syndrome - dwi'n meddwl fydd y bois o Llanfaethlu yn dod i Seattle ac yn dweud 'reit, mae'n amser mynd adref r诺an'!"

Hefyd o ddiddordeb: