Pobl Cymru 芒'r 'sgiliau digidol gwaethaf' yn y DU
- Cyhoeddwyd
Nid oes gan un o bob pum oedolyn yng Nghymru yr un o'r sgiliau digidol sylfaenol, yn 么l adroddiad.
Dangosodd canlyniadau arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mai pobl Cymru yw'r lleiaf medrus yn y DU wrth ymdrin 芒 thechnoleg ar-lein.
Rhybuddia'r adroddiad bod y bobl heb sgiliau digidol "mewn peryg o gael eu gadael ar 么l".
Mae sgiliau digidol sylfaenol yn cynnwys defnyddio chwilotwr ar-lein, anfon e-byst, prynu nwyddau drwy wefan, datrys problem drwy gadarnhau gwybodaeth a chwblhau ffurflenni.
Yn 么l yr adroddiad, doedd gan 19% o bobl yng Nghymru ddim un o'r sgiliau digidol hynny o gwbl, a dim ond 66% sy'n meddu ar y pump sgil.
O ganlyniad, Cymru sydd 芒'r canran isaf - dau o bob tri - o bobl 芒 phob un o'r sgiliau digidol hynny.
'Anghyfartaledd'
Dywed yr adroddiad bod y bwlch rhwng y rheini sy'n gallu defnyddio technoleg i gyfathrebu a'r rhai sy'n methu yn creu "anghyfartaledd, wrth fanteisio ar gyfleoedd, gwybodaeth, gwasanaethau a nwyddau".
Yn 么l yr adroddiad, mae pobl gyda sgiliau digidol yn fwy tebygol o ennill mwy o gyflog, yn gallu manteisio ar fwy o gyfleoedd i ddod o hyd i waith, ac maen nhw hefyd yn gallu arbed arian wrth siopa ar-lein.
Mae modd iddynt hefyd gyfathrebu'n haws gyda theulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach, ac maent yn gallu arbed amser drwy ddefnyddio gwasanaethau fel bancio ar-lein.
Yng Nghymru, dyw 11% o bobl ddim yn defnyddio'r rhyngrwyd. Mae'r rhif wedi gostwng o 22% yn 2012, ond mae'n dal i fod ychydig yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU, sef 10%.
Dros y DU, dywedodd 20% o bobl nad oeddent yn defnyddio'r rhyngrwyd am nad oedd ganddynt y sgiliau i allu gwneud.
Dywedodd eraill nad oedd angen y rhyngrwyd arnynt (64%), ac fe ddywedodd canran o bobl (8%) nad oeddent yn gallu fforddio'r cyfarpar.
Effeithio'r mwyaf bregus
Yn 么l Dawn Snape o'r ONS, mae'r adroddiad yn "dangos bod y nifer o bobl sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yn aml ac yn meddu ar y sgiliau sylfaenol, o leiaf, ar gynnydd."
"Fodd bynnag, nid oes gan dros 5 miliwn o bobl yn y DU fynediad at wasanaethau na chymorth angenrheidiol sydd ar-lein," meddai.
"Mae nifer ohonynt ymhlith y mwyaf bregus yn y gymdeithas, gan gynnwys rhai pobl anabl a phobl h欧n.
"Yn ogystal, mae 700,000 o blant oedran uwchradd heb lechen neu gyfrifiadur i gael mynediad i'r rhyngrwyd adref. Amcangyfrifir bod 60,000 heb fynediad i'r rhyngrwyd o gwbl, a gall fod yn cael effaith ar eu gwaith ysgol.
"Tan fod modd gwaredu ar rwystrau i gynhwysiant digidol, dylid sicrhau bod opsiynau eraill ar gael i alluogi pawb i gyfrannu i gymdeithas."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2017