Newid cynllun taliadau cymorth ar gyfer ffermwyr Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd y prif gynllun cymhorthdal i ffermwyr Cymru yn cael ei ddisodli ar 么l Brexit, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
Bydd taliadau sy'n seiliedig ar faint o dir sy'n cael ei ffermio yn dod i ben.
Yn eu lle, bydd taliad blynyddol yn cael ei gynnig ar gyfer gwaith amgylcheddol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths y byddai'r cynigion yn helpu i sicrhau sector amaethyddiaeth sy'n "ddiogel, ffyniannus a chydnerth".
Mae cymorthdaliadau'r Undeb Ewropeaidd - sy'n werth tua 拢350m y flwyddyn - yn cyfrif am fwy nag 80% o incwm ffermydd yng Nghymru ar gyfartaledd.
Mae'r mwyafrif helaeth o'r arian yn cael ei roi fel "taliadau uniongyrchol", o dan y Cynllun Taliad Sylfaenol.
Ond mae Ms Griffiths yn credu ei fod wedi gwneud ffermydd Cymru yn anghystadleuol.
Cyfuno dau gynllun
I ddechrau, roedd Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y byddai dau gynllun grant newydd yn dod yn ei le, ar 么l i'r DU adael yr UE.
Byddai un yn cynnig grantiau busnes, tra byddai un arall yn gwobrwyo ffermwyr am gyflenwi nwyddau cyhoeddus fel diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt a mynd i'r afael 芒 newid yn yr hinsawdd.
Ar 么l derbyn adborth ar yr ymgynghoriad, dywedodd Ms Griffiths ei bod wedi penderfynu cyfuno'r ddau gynllun.
"Ar 么l ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rwy'n cynnig cynllun ffermio cynaliadwy sengl newydd, sy'n ein galluogi i archwilio cyfleoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar yr un pryd," meddai.
"Byddwn ni'n cynnig rhoi taliad blynyddol i ffermwyr am y canlyniadau amgylcheddol sy'n cael eu cyflawni ar eu fferm - gyda'r nod o wrthdroi dirywiad bioamrywiaethol, bodloni ein cyllidebau carbon a chyrraedd ein targedau aer gl芒n."
Bydd ymgynghoriad pellach ar y cynlluniau yn cael ei lansio cyn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf.
Mae disgwyl i'r taliadau barhau yn eu ffurf bresennol tan 2021, ar 么l i arweinwyr ffermio rybuddio bod y newidiadau'n digwydd yn rhy gyflym ac y gallan nhw niweidio'r diwydiant.
Manylion
Wrth ymateb, dywedodd llywydd undeb ffermwyr NFU Cymru, John Davies mai'r "manylion fydd yn bwysig".
Dywedodd: "Rhaid i unrhyw gynllun newydd gynnig buddion sy'n gyfartal neu'n well [na'r Cynllun Taliad Sylfaenol], a dyna pam bod NFU Cymru wastad wedi galw am gynnwys taliad sefydlogrwydd er mwyn gwarchod ffermwyr rhag anwadalrwydd, gwarchod diogelwch bwyd a sicrhau canlyniadau fydd er budd pawb mewn cymdeithas."
"Croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn ystyried nifer o'r pryderon a godwyd gan yr FUW" mae llywydd yr undeb, Glyn Roberts.
"Ond y gobaith ydi bod hyn yn symud yn nes at gydnabod y peryglon o ddefnyddio dulliau sydd heb eu profi - rhai a allai fod y rhai mwyaf radical ers yr Ail Ryfel Byd - a'r effaith gall hynny gael ar ein cymunedau a'n economi," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2019
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2019