IBERS: Pryderon am ddyfodol ariannu ymchwil
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwilwyr yng nghanolfan IBERS, sy'n rhan o gampws Prifysgol Aberystwyth, yn poeni am ddyfodol ariannu gwaith ymchwil "yn wythnosol".
Daw hynny ar drothwy dathlu 100 mlynedd o waith yn y maes o fridio planhigion.
Pan sefydlwyd y ganolfan yn 1919, y nod oedd cynhyrchu mwy o fwyd yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Erbyn heddiw, mae'r ganolfan yn cael ei chydnabod am ei gwaith ymchwil yn rhyngwladol.
'Creu seiliau'
Mae Alan Lovatt wedi gweithio yn IBERS ers 45 mlynedd, bron i hanner oes y ganolfan.
Mae'n dweud bod gwaith ymchwil wedi esblygu dros y blynyddoedd.
"Mae'r gwaith arloesol ddigwyddodd bryd hynny wedi creu seiliau ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud heddiw," meddai.
"Rydym ni'n dal i fridio cnydau ar gyfer y gorllewin heddiw sef glaswellt, meillion, ceirch, ffa, pys a miscanthus - sy'n frid newydd i Brydain.
"Ni wedi symud ymlaen, ond yn dal i wneud yr un math o bethau ag yr oeddwn yn ei wneud yn 1919.
"Yn 1938, daeth yr uchafbwynt cyntaf o ran gwaith ymchwil - y math cyntaf o laswellt erioed i gael ei greu yn y byd sef yr S23.
"Mae llwyth o fathau gwahanol gyda ni heddiw sy'n fwy cynhyrchiol, o well ansawdd ac yn para'n well."
Mae Prifysgol Aberystwyth ar fin agor campws newydd ar safle Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, gwerth 拢40.5m.
Bydd Campws Menter ac Arloesi Aberystwyth yn darparu cyfleusterau blaenllaw ac arbenigedd ar gyfer y diwydiant amaeth a thechnoleg a'r sector bio-wyddoniaeth.
'Pryder wythnosol'
Cafodd Canolfan IBERS ei sefydlu ar 么l i Syr Lawrence Phillips gyfrannu 拢10,000 tuag at waith ymchwil amaethyddol. Yn 2019, mae hynny gyfystyr 芒 拢500,000.
Mae Dr Judith Thornton, sydd hefyd yn gweithio yn IBERS, yn teimlo bod arian yn dal i fod yn bryder "wythnosol".
Gwaith Dr Thornton yw edrych ar ddefnydd amgen gwair. Mae gwaith arbrofi yn cael ei wneud ar droi porfa yn danwydd, plastig, ffibr, cerdyn neu ddefnyddiau adeiladu.
Mae'r prosiect yn un mewn nifer sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
"Mae gennon ni'r dechnoleg i greu newid yma, dim ond bod angen mwy o motivation ar bobl ar hyn o bryd.
"Mae'r prosiect yma'n cael ei ariannu trwy arian Ewropeaidd, ac rydyn ni'n poeni am arian yn wythnosol.
"Mae 'na bryder achos pwy a 诺yr beth fydd yn digwydd gyda Brexit ac effaith hynny ar ymchwil."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018