91热爆

Pedair milltir ac awr a hanner i gerdded i'r ysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae 20-24 Mai yn wythnos cerdded i'r ysgol a rhai ysgolion yn manteisio ar y cyfle i annog cyfleoedd i blant ddod i'r ysgol ar droed neu ar feic yn hytrach na mewn car.

Ond faint o blant sydd 芒 thaith gerdded mor braf 芒'r tri yma a ddeffrodd yn gynt nag arfer ar Fai 21 i gerdded pedair milltir o'u cartref yng Nghwm Cynllwyd, Gwynedd, i lawr i'r ysgol yn y pentref.

Ffynhonnell y llun, Cari Sioux
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Lliwen, Eleias a Daniel yn pasio heibio godrau'r Aran Benllyn ar eu taith i'r ysgol yn Llanuwchllyn

Fe gymerodd y daith tua awr a hanner i Lliwen, Eleias a Daniel - ond roedd y golygfeydd yn fendigedig.

Cafodd Daniel, sy'n bump, ganmoliaeth arbennig gan ei athrawon am wneud y daith!

"Fel arfer mae'r tri yn dal tacsi am 8:30 yn y bore i'r ysgol, ond gan bod hi'n wythnos cerdded i'r ysgol, mi benderfynon eto eleni cerdded y pedair milltir i'r ysgol o Gynllwyd i Lanuwchllyn," meddai eu mam, Cari Sioux.

"Dyma'r tro cyntaf i Daniel ei gwneud hi.

"Cychwyn am 7:30 a'r haul allan, gyda golygfeydd ffantastic!

"Roedd y plant yn sylwi ar natur o'u cwmpas mwy, y blodau gwyllt, s诺n gwahanol, a chymryd yr amser i gymryd pethe i fewn a chwarae ryw gemau fel 'Dwi'n gweld efo'n llygad bach i' - a chael plyciau o redeg!

"Roedden nhw yn teimlo'n ffit, yn iach ac yn falch o wneud y daith .... ac awydd gneud eto yn fuan!"

Ffynhonnell y llun, Cari Sioux
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cychwyn am 7.30...

Ffynhonnell y llun, Cari Sioux
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyfle olaf i ffonio am dacsi?

Ffynhonnell y llun, Cari Sioux
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heibio mynydd Yr Aran

Ffynhonnell y llun, Cari Sioux
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hanner ffordd - dweud helo wrth y ceffyl

Ffynhonnell y llun, Cari Sioux
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y plant - a mam - yn teimlo'n iach ac yn ffit

Hefyd o ddiddordeb: