Cerdded Cymru'n codi ysbryd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro ifanc sy'n brwydro iselder wedi bod yn bodio o amgylch Cymru gyfan er mwyn codi arian at elusen sy'n arbenigo mewn atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc.
Dywed Gareth Owens, 22 oed, o Arberth yn Sir Benfro, bod codi bawd ac ymddiried mewn pobl eraill yn ffordd dda o ledaenu ei neges bod iselder yn gyffredin ac y dylid ei drafod.
Fis diwethaf, fe deithiodd 1100 km o amgylch ffyrdd troellog Cymru, gan fachu 45 pas wrth fodio. Bu'n dweud ei hanes wrth Cymru Fyw:
'Talcen caled'
"Roedd e'n antur hollol epic! Un o'r pethau wnaeth fy nghynnal i ar y daith oedd haelioni pobl," meddai Gareth.
"Oedd rhai yn siarad gyda fi gyda'r nos, yn prynu bwyd i fi, a hyd yn oed yn siarad gyda fi am eu profiadau personol am iselder a hunanladdiad. Roedd e'n brofiad anhygoel."
Fe wnaeth e gofnodi'r daith hefyd, yn ogystal 芒 rhannu lluniau ar , a chael ymatebion a chefnogaeth wych gan ffrindiau a dieithriaid, meddai.
Dywedodd bod cyfaddef i anhwylder meddyliol yn heriol iawn i bobl ifanc, a bod codi arian at Papyrus UK yn fodd o godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth y maen nhw'n cynnig.
Roedd yntau wedi dioddef iselder difrifol, gan fethu 芒 mynd i'r gwaith a wynebu pobl eraill.
"Gyda dynion ifanc, mae'n dalcen caled," meddai.
"Mae yna ryw stigma hen ffasiwn yn bodoli o gwmpas iselder. Mae disgwyl i ddyn i fynd allan, bod yn rhyw fath o berson cadarn, cryf, grymus, a threulio diwedd y dydd yn chwerthin am bopeth gyda pheint o gwrw yn ei law.
"Mae'n broblem fawr. Ac os all mwy o bobl ifanc, nid dim ond bechgyn, siarad yn onest am y broblem, bydd hynny'n beth positif iawn.
"Y peth olaf dw i eisiau gwneud yw clodfori hunanladdiad. Dyw e ddim yn rhywbeth mae rhieni eisiau i'w plant glywed amdano, neu feddwl amdano ac ymchwilio mewn iddo. Y cyfan dw i eisiau gwneud ydy annog pobol, dweud bod e'n iawn i siarad yn onest. Mae'n iawn i ddweud, 'Hei, dyma fi. Mae gen i iselder'.
"Dwi fy hun yn cyfaddef fy mod yn byw gydag iselder. Dw i byth wedi cuddio hynny," meddai.
Rhywle i droi
Mae ef ei hun yn teimlo ei fod yn gallu siarad gyda'i rieni neu ffrindiau, ac yn cael cefnogaeth lawn ganddyn nhw. Mae ganddo hefyd lond llaw o rifau yn ei ff么n symudol, lle all e droi atyn nhw mewn argyfwng.
Mae 12 o bobl dan 16 oed yn ffonio llinellau cymorth bob dydd yn 么l ystadegau diweddar, yn 么l Gareth Owens.
"Maen nhw'n poeni am sut maen nhw'n teimlo'n feddyliol, neu eu bod nhw'n meddwl terfynu eu bywydau nhw, neu ar fin cyflawni hynny. Maen nhw wedi cyrraedd y gwaelodion yn llwyr a wirioneddol angen help.
"Os nad oes gyda chi unman i droi, mae elusen Papyrus yno. Byddai galwad ff么n a chyfle i siarad yn gwneud gwahaniaeth."
Codi pobl
Dywedodd bod ei antur o amgylch Cymru wedi ei ysbrydoli gan deithiau blaenorol yn hemisffer y de.
"Dw i wastad wedi mwynhau teithio, ac wedi byw yn Seland Newydd am gwpl o flynyddoedd," meddai.
"Dw i wedi bod yn Awstralia hefyd, ac mae bodio dipyn mwy cyffredin draw yn y fan honno.
"Mae wastad wedi bod yng nghefn fy meddwl i fodio o gwmpas Cymru. A phan weles i Papyrus, a'r gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud, doth y syniad i'r wyneb eto.
"Y syniad oedd gen i oedd nad oes rhaid i chi adnabod rhywun er mwyn rhoi lifft iddyn nhw, neu eu codi nhw, fel petai."