91热爆

Pryder yn lleol am siop Lidl newydd i Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Llun artist o'r siop fyddai'n cymryd lle hen orsaf heddlu yng NghaerfyrddinFfynhonnell y llun, Llun artist
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun artist o'r siop fyddai'n cymryd lle hen orsaf heddlu yng Nghaerfyrddin

Mae yna bryderon am gynlluniau i symud lleoliad archfarchnad Lidl yng Nghaerfyrddin.

Bwriad y cwmni yw codi siop newydd ar safle hen orsaf heddlu yn y dref.

Ond mae trigolion yn poeni y byddai'r siop yn rhy agos at olion archeolegol pwysig.

Fe fydd yr hen orsaf yn gorfod cael ei dymchwel ar gyfer y siop newydd - a fydd yn 33% yn fwy o faint na'r siop bresennol ar Heol y Prior.

Mewn adroddiad cynllunio, mae swyddogion yn nodi bod y siop bresennol yn "rhy fach" i wasanaethu'r nifer o gwsmeriaid sy'n ei defnyddio, ac mae angen gwell cyfleusterau.

Mae cyfarfod cynllunio - a oedd i fod i drafod y mater ddydd Mawrth - wedi cael ei ohirio er mwyn i swyddogion dderbyn gwybodaeth bellach gan CADW.

Mae Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Caerfyrddin i fynegi pryderon am agosrwydd y siop arfaethedig at amddiffynfeydd o gyfnod y Rhyfel Cartref 1642-51, a godwyd i warchod gorllewin Caerfyrddin.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw safle'r siop Lidl bresennol yng Nghaerfyrddin ddim yn ddigon mawr i ganiat谩u estyniad

Yn 么l adroddiad cynllunio'r cyngor sir, dyma'r enghraifft orau o amddiffynfeydd trefol sydd yn dal i fodoli yng Nghymru.

Yn 么l Trefor Thorpe o Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin: "Ni'n pryderu bod y cyngor ddim wedi cymryd mantais o'r sefyllfa i greu rhywbeth gwell.

"Dyma'r prif safle o oes y Rhyfel Sifil yng Nghymru ac mae'r gwrthgloddiau yn bwysig iawn. Ni'n mynd i gael siop a lle parcio wrth eu hochr nhw.

"Mae posibilrwydd i wneud rhywbeth gwell ar y safle."

'Newyddion trychinebus'

Mae yna bryder hefyd ymhlith pobl oedrannus sydd yn byw ger y siop Lidl bresennol yngl欧n 芒 cholli adnodd yn y gymuned leol.

Mae Eira Phillips yn byw mewn bloc o fflatiau i bobl h欧n yn agos iawn at yr archfarchnad ar Heol y Prior.

Mae hi'n pryderu y bydd y siop yn symud i ran arall o'r dref, a does yna ddim sicrwydd beth fydd yn agor ar yr hen safle.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr hen orsaf heddlu yng Nghaerfyrddin

"Mae'n newyddion trychinebus," meddai. "Dwi'n mynd yna bron bob dydd. Mae e mor gyfleus, ac mae amryw o bobl yn fethedig yn yr ardal yma... Maen nhw'n medru mynd gyda'u walkers.

"Mae tri gwahanol set o fflatiau hen bobl yma: T欧 Rhys, Hafan Tywi a Plas y Milwr. Erbyn hyn, maen nhw'n adeiladu mwy o fflatiau. Dwi ddim yn medru gweld y bydd e'n talu ffordd."

Mae disgwyl i'r cais cynllunio cael ei drafod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir G芒r yn ystod yr wythnosau nesaf, pan fydd gwybodaeth ychwanegol gan CADW wedi dod i law.

Mewn datganiad, dywedodd Lidl bod rhaid iddyn nhw symud safle ac ehangu er mwyn "gallu cwrdd 芒 disgwyliadau uchel ein cwsmeriaid lleol".

Ychwanegodd llefarydd fod y cwmni'n parhau mewn trafodaethau gyda CADW a Llywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi cael cais i ymateb i'r feirniadaeth am ddyluniad y siop newydd.