Pryder am effaith bosib cais i restru hen orsaf heddlu
- Cyhoeddwyd
Fe allai methu 芒 gwerthu safle hen orsaf heddlu Wrecsam "gael effaith uniongyrchol" ar wasanaeth plismona'r gogledd, yn 么l Comisiynydd Heddlu'r rhanbarth.
Daeth i'r amlwg bod Cadw - y corff sy'n gofalu am faterion amgylchedd hanesyddol ar ran Llywodraeth Cymru - wedi derbyn cais i ystyried a ddylai'r adeilad fod yn un restredig.
Fe fyddai rhestu'r adeilad yn amharu ar gynlluniau i ddymchwel yr hen ganolfan adrannol aml-lawr a chodi archfarchnad Lidl yn ei lle.
Dywed Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones: "Mae gwerthiant y safle'n amodol ar Lidl yn sicrhau caniat芒d cynllunio i godi archfarchnad yno ond ni allai hynny ddigwydd oni bai bod hi'n bosib i ddymchwel yr adeilad presennol."
Mae Mr Jones a'r Prif Gwnstabl, Carl Foulkes wedi danfon llythyr at adran ddiwylliant Llywodraeth Cymru yn gofyn am eglurder ynghylch y posibilrwydd o restru un o adeiladau amlycaf canol y dref.
Fe gaeodd yr adeilad i'r cyhoedd ym mis Ionawr wedi dros 40 o flynyddoedd fel rhan o gynllun i sefydlu canolfan newydd ar gyfer adran ddwyreiniol y llu yn Llai.
Roedd hynny yn sgil penderfyniad bod yr hen orsaf dim yn addas i bwrpas mwyach.
Yng Ngorffennaf 2014 fe gafodd y llu ganiat芒d gan Gyngor Wrecsam i'w ddymchwel - cam sy'n annatod i unrhyw gynlluniau i aillddatblygu'r safle.
Dywedodd Mr Jones - cyn-arolygydd gyda Heddlu'r Gogledd - na fyddai rhestru'r adeilad yn effeithio ar yr adeilad newydd yn Llai, "ond fe allai colli arian y gwerthiant gael effaith uniongyrchol ar y gwasanaeth plismona yng ngogledd Cymru".
Mae Lidl yn gobeithio codi siop 1,325 medr sgw芒r a siop goffi i yrwyr ar y safle ond mae'r cyfnod sy'n berthnasol i'r caniat芒d cynllunio i ddymchwel yr adeilad presennol yn dod i ben ym Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn bwrw ymlaen gyda'r cais cynllunio ac yn edrych ymlaen at gael penderfyniad terfynol.
Mae plismyn sy'n gwasanaethu canol Wrecsam wedi symud i swyddfa dros dro yn Stryd Caer tra bod gwaith yn cael ei gwblhau i'r hen oriel yn llyfrgell y dref i greu safle gyda gwasanaeth cownter blaen a chelloedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2013