Cartref newydd i'r heddlu yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i gynghorwyr gymeradwyo cynlluniau ddydd Llun i addasu oriel gelf yn gartref newydd i orsaf yr heddlu yn Wrecsam.
Bydd yr orsaf bresennol yng nghanol y dre yn cael ei dymchwel.
Fe fydd yr orsaf newydd yn rhan o lyfrgell y dre.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys codi estyniad i adeilad yr Oriel.
Ar 4 Ionawr penderfynodd cynghorwyr oedi cyn gwneud penderfyniad terfynol oherwydd pryderon yngl欧n 芒 llefydd parcio i'r anabl.
Mae'r Oriel Gelf wedi ei symud i leoliad arall dros dro gyda'r Cyngor yn bwriadu gwario 拢4.5 miliwn ar godi canolfan gelfyddydau newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2016