G锚m gyfeillgar: Cymru 1-0 Trinidad a Tobago
- Cyhoeddwyd
Roedd g么l hwyr gan Ben Woodburn yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i d卯m Ryan Giggs yn erbyn Trinidad a Tobago yng ng锚m gyntaf Cymru ar y Cae Ras ers 2008.
Roedd nifer o enwau mawr y garfan yn absennol, gyda chwaraewyr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen ddim hyd yn oed ymysg yr eilyddion.
Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru chwarae yn Wrecsam ers iddyn nhw drechu Norwy yn Chwefror 2008.
O flaen torf o 10,326 o gefnogwyr fe gymrodd 92 munud i d卯m Giggs ganfod g么l yn erbyn gwlad sy'n 93ain yn netholion y byd.
Daeth y cyfle da cyntaf yn dilyn croesiad da gan Chris Gunter, ond llwyddodd y golwr Marvin Phillip i arbed ergyd yr asgellwr Ryan Hedges.
Fe wnaeth pwysau Cymru ddwysau wrth i'r hanner cyntaf fynd ei flaen, gyda George Thomas hefyd yn taro ergyd aeth yn agos ond dros y trawst, ond roedd hi'n ddi-sg么r ar hanner amser.
Thomas gafodd gyfle cyntaf yr ail hanner hefyd, gyda'i ergyd angen arbediad arall gan Phillip.
Cafodd yr ymwelwyr eu cyfle cyntaf yn fuan wedi hynny, gyda Gunter yn atal ergyd Aubrey David rhag croesi'r llinell g么l.
Llwyddodd Thomas i benio i'r rhwyd yn dilyn 66 munud ond cafodd ei ddyfarnu ei fod yn camsefyll.
Roedd hi'n edrych yn debyg fel y byddai'n gorffen yn ddi-sg么r cyn i Woodburn llwyddo i gael y b锚l dros y llinell g么l yn dilyn croesiad Will Vaulks.
Fe wnaeth dau chwaraewr ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf, gyda chwaraewr canol cae Rotherham, Vaulks yn dechrau'r g锚m a golwr Barnsley, Adam Davies yn cymryd lle Danny Ward yn ystod yr egwyl.
Bydd y t卯m yn teithio i Gaerdydd yn y dyddiau nesaf ble byddan nhw'n dechrau eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2020 yn erbyn Slofacia brynhawn Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2019