91热爆

Gareth Bale wedi ei enwi yng ngharfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth Bale ydy prif sgoriwr Cymru gyda 31 g么l mewn 74 g锚m

Mae Gareth Bale wedi'i enwi yng ngharfan Cymru i wynebu Trinidad a Tobago a Slofacia.

Roedd amheuaeth am ffitrwydd ymosodwr Real Madrid, ond mae'r rheolwr Ryan Giggs wedi enwi Bale yn y garfan 31-dyn.

Mae chwaraewr canol cae Rotherham, Will Vaulks, wedi'i enwi am y tro cyntaf, gyda James Chester ac Andy King allan gydag anafiadau.

Bydd Cymru yn wynebu Trinidad a Tobago mewn g锚m gyfeillgar yn Wrecsam ar 20 Mawrth, cyn wynebu Slofacia mewn g锚m ragbrofol Euro 2020 yng Nghaerdydd ar 24 Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Will Vaulks ei eni yng Nghilgwri ond mae'n gymwys i chwarae dros Gymru am fod ei fam yn Gymraes

Fe fethodd Bale g锚m ddiwethaf Madrid ddydd Sul ar 么l anafu ei bigwrn yn y golled yn erbyn Ajax yr wythnos diwethaf.

Ond mae Giggs yn hyderus y bydd seren Cymru yn dychwelyd mewn pryd i gynrychioli ei wlad yn y ddwy g锚m nesaf.

"Ro'n i, fel pawb arall, yn poeni pan weles i e. Ond dim ond cic oedd e felly dyle fe fod yn iawn," meddai.

Cadarnhaodd Giggs y byddai Ashley Williams - sy'n 34 oed ac ar fenthyg o Everton yn Stoke - yn parhau fel capten.

Carfan Cymru i wynebu Trinidad a Tobago a Slofacia:

Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerl欧r), Adam Davies (Barnsley), Chris Maxwell (Preston North End).

Amddiffynwyr: Ashley Williams (Stoke City ar fenthyg o Everton) (c), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Aston Villa), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Connor Roberts (Abertawe), James Lawrence (Anderlecht), Ethan Ampadu (Chelsea), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Chris Mepham (Bournemouth), Paul Dummett (Newcastle), Declan John (Abertawe), Ryan Hedges (Barnsley).

Canol cae: Joe Allen (Stoke), David Brooks (Bournemouth), Ben Woodburn (Lerpwl), Harry Wilson (Derby County ar fenthyg o Lerpwl), Aaron Ramsey (Arsenal), Matthew Smith (FC Twente ar fenthyg o Man City), Lee Evans (Wigan Athletic), Daniel James (Abertawe), Will Vaulks (Rotherham), George Thomas (Scunthorpe United ar fenthyg o Gaerl欧r), Rabbi Matondo (Schalke).

Ymosodwyr: Sam Vokes (Stoke), Tom Lawrence (Derby), Gareth Bale (Real Madrid), Tyler Roberts (Leeds United).