91热爆

Galw am fuddsoddiad i gyfleusterau p锚l-droed yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
spencerFfynhonnell y llun, Picasa
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Spencer Harris ydy un o gyfarwyddwyr Clwb P锚l-droed Wrecsam

Mae un o gyfarwyddwyr Clwb P锚l-droed Wrecsam wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y cyfleusterau yno.

Ar drothwy ymweliad cyntaf y t卯m cenedlaethol i'r Cae Ras ers dros 10 mlynedd, mae Spencer Harris yn dweud ei bod hi'n annheg nad oes cyfleusterau o safon cenedlaethol yn y gogledd.

Bydd Cymru yn herio Trinidad a Tobago mewn g锚m gyfeillgar yn Wrecsam nos Fercher, 20 Mawrth.

Mae Cymru'n chwarae eu gemau cystadleuol gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

"Fe ddylai'r Llywodraeth helpu'r gogledd i wneud yn si诺r bod y Cae Ras yn strategic asset a buddsoddi yn y stadiwm i sicrhau bod gemau rygbi neu b锚l-droed rhyngwladol yn gallu cael eu cynnal yn y gogledd," meddai Mr Harris.

"Mae hyn yn bwysig er mwyn gwasanaethu Cymru gyfan, yn hytrach na dim ond de Cymru."

'Gwella delwedd Wrecsam'

Mae s么n wedi bod yn y gorffennol am sefydlu amgueddfa b锚l-droed genedlaethol yn rhan o gynlluniau i ail-ddatblygu'r Kop yn y Cae Ras.

"Gawn ni weld os ddaw'r amgueddfa i Wrecsam, efallai daw i'r Cae Ras. Ond os ddaw'r amgueddfa i'r Cae Ras neu ddim, mae yna gyfle bellach gan fod y t卯m rhyngwladol wedi dychwelyd yma," meddai Mr Harris.

"Mae'r Kop yn eyesore i'r dref i ddweud y gwir, ac mae'n rhaid gwneud rhywbeth amdano er mwyn gwella delwedd Wrecsam gan ei fod ar y brif ffordd i mewn i'r dref."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cae Ras yn eistedd 10,500 o bobl - heb gynnwys y Kop (uchod), sydd wedi bod allan o ddefnydd ers rhai blynyddoedd am nad yw'n ddigon saff

Fel rhan o'r paratoadau cyn y g锚m nos Fercher, mae carfan Cymru wedi bod yn defnyddio cyfleusterau Manchester United yn Carrington er mwyn ymarfer.

"Does yna ddim stadiwm i gynnal gemau rhyngwladol yng Nghymru i'r gogledd o'r coridor M4," ychwanegodd Mr Harris.

"Dydi hynny ddim yn deg i'r bron miliwn o bobl sy'n byw o Fachynlleth i fyny i Ynys M么n, ac ar draws yr arfordir i Bae Colwyn a Wrecsam."

'Hwb economaidd'

Mae rhai gwelliannau wedi eu gwneud i'r cyfleusterau yn y Cae Ras eisoes ac mae Llywodraeth Cymru, y Gymdeithas B锚l-droed a Chyngor Wrecsam wedi bod yn trafod ailddatblygu'r stadiwm ers rhai blynyddoedd.

Mae Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru yn y gogledd, wedi bod yn ymgyrchu dros gael amgueddfa genedlaethol b锚l-droed yn Wrecsam ers dros dair blynedd.

"Yn ogystal 芒 sicrhau mwy o gemau rhyngwladol yn Wrecsam, byddai stadiwm pedair ochr yn rhoi hwb economaidd a masnachol i'r clwb a'r dref," meddai.

"Mae 'na heriau wrth gwrs ond y prif beth yw sicrhau fod yr ewyllys gwleidyddol yno er mwyn cael y maen i'r wal."

Mae Cymru Fyw wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.