Prosiect i oroesi canser ceg y groth
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect ymchwil 拢2.6m yn Abertawe yn anelu i gael mwy o ferched i oroesi canser y groth.
Canser y groth yw'r chweched math mwyaf cyffredin yn y DU. Bob blwyddyn mae 7,000 achos newydd ac wedi i'r canser ledu dim ond 5% sy'n byw am bum mlynedd.
Mae tystiolaeth yn dangos y gall nifer yr achosion godi 15% yn ystod yr 16 mlynedd nesaf os nag yw triniaeth yn datblygu'n sylweddol.
Bydd prosiect sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe yn arbrofi gyda genynnau er mwyn ceisio dod o hyd i driniaeth.
'Angen triniaeth yn fuan'
Dywedodd un o'r prif ymchwilwyr Dr Lewis Francis: "Mae epigeneteg yn ymwneud 芒 newidiadau cemegol i DNA a phroteinau cysylltiedig ac mi allai arwain at enynnau yn cael eu troi ymlaen neu i ffwrdd.
"Mewn rhai achosion, mi all hyn fynd o'i le ac mi all arwain at haint."
Rhan o'r gwaith fydd datblygu cyffuriau i reoli newid yn y genynnau a thargedu yn benodol celloedd canser ofaraidd.
Mae'r prosiect wedi derbyn 拢1.2m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Dr Deyarina Gonzalez o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: "Mae canser ofaraidd yn cael ei gysylltu'n gyson gyda diagnosis hwyr ac y mae hyn yn golygu bod triniaeth effeithiol a buan yn hynod bwysig.
"Mae'r prosiect hwn yn gam pwysig i dargedu celloedd canser ofaraidd ac yn anelu i leihau sgil effeithiau cemotherapi."
Symptomau canser y groth
Teimlad o chwyddo parhaol
Teimlo'n llawn a ddim eisiau bwyd
Poen yn y bol ac/neu yn is
Angen pasio d诺r yn gyson
Dolur rhydd neu bod yn rhwym
Blinder ofnadwy
Colli pwysau'n sydyn
Mae angen siecio unrhyw waedu wedi diwedd y misglwyf
Ffynhonnell: GIG
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd25 Awst 2016