Grant o 拢280,000 i ymchwilio i ganser y prostad
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi derbyn grant o bron i 拢280,000 i ymchwilio i ffyrdd newydd o atal canser y prostad rhag dychwelyd a lledaenu yn dilyn llawdriniaeth neu radiotherapi.
Cafodd y grant ei roi gan elusen Prostate Cancer UK fel rhan o gynllun newydd gwerth 拢2.6m i wobrwyo gwaith ymchwil newydd. Gobaith y cynllun yw i hybu ymchwilwyr i gynnig gwaith ymchwil blaengar sydd yn herio'r dulliau traddodiadol o weithio.
Mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd, dan arweinyddiaeth Dr Richard Clarkson, yn gobeithio profi effeithlonrwydd cyffur newydd i ladd celloedd bonyn canser. Mae'r celloedd bonyn yn gyfrifol am gynhyrchu canser sy'n dychwelyd ymysg dynion gyda risg uchel o ganser y prostad.
Dywedodd Dr Clarkson: "Hyd yn oed pan mae canser y prostad yn cael ei ddal a'i drin cyn iddo ymledu tu allan i'r prostad, ar hyn o bryd mae'n dychwelyd yn rhy aml. Yn wir, mae tua un o bob tri o ddynion sy'n cael tynnu eu prostad, neu'n cael radiotherapi, yn darganfod fod y canser yn dychwelyd ar 么l cyfnod.
"Mae'r cyffur newydd hwn yn targedu'r celloedd yr ydym yn ei gredu sy'n gyfrifol am achosi'r canser i ddychwelyd. Ein gobaith yw y bydd yr astudiaeth yma'n agor y drws i allu'i ddefnyddio law yn llaw 芒 therapi canser sy'n bodoli nawr, er mwyn helpu cleifion i barhau yn rhydd o ganser. Rydym yn hynod o ddiolchgar am y grant yma gan Prostate Cancer UK ac ni allwn aros i gychwyn ar y gwaith."
Diagnosis
Mae canser y prostad yn lladd dros 540 o ddynion yng Nghymru bob blwyddyn ac mae dros 2,5000 yn derbyn diagnosis. Bwriad Prostate Cancer UK yw targedu canser y prostad dros y ddegawd nesaf yn y gobaith na fydd yn parhau i fygwth bywydau dynion yn yr un ffordd ag y mae'n ei wneud yn bresenol. O ganlyniad, mae'r elusen yn canolbwyntio ar dri maes penodol, diagnosis, triniaeth ag atal.
Dywedodd Dr Iain Frame, Cyfarwyddwr Ymchwil Prostate Cancer UK: "Drwy symud y wyddoniaeth dros y ddegawd nesaf, rydym am drawsnewid canser y prostad i mewn i glefyd na fydd dynion y genhedlaeth nesaf ddim yn ei ofni.
"Bydd ymchwil blaengar fel hwn gan Dr Clarkson yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o'n helpu i gyrraedd ein nod dros y ddegawd nesaf ac rydym yn edrych ymlaen i weld sut bydd yr ymchwil yn datblygu.