91热爆

Nodi 50 mlynedd ers arwisgiad Tywysog Cymru

  • Cyhoeddwyd
ArwisgiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y Tywysog Charles ei arwisgo yng Nghastell Caernarfon yn 1969

Bydd Palas Buckingham yn dathlu elusennau, sefydliadau a busnesau Cymreig mewn derbyniad i nodi 50 mlynedd ers arwisgiad Tywysog Cymru.

Dywedodd y Teulu Brenhinol bod y digwyddiad ddydd Mawrth yn cydnabod gwasanaeth y Tywysog i Gymru.

Daw wrth i arolwg barn gan 91热爆 Cymru ddarganfod bod 62% o'r rhai a holwyd yng Nghymru yn erbyn diddymu'r frenhiniaeth.

Yn 么l yr ymchwil, 18% oedd eisiau cael gwared ar y frenhiniaeth.

50% o blaid Tywysog newydd

Fe wnaeth yr arolwg ddarganfod hefyd bod 50% o'r rhai a holwyd o blaid cael Tywysog Cymru newydd pan fydd Charles yn dod yn Frenin, gyda 22% yn dweud na ddylid cael Tywysog newydd.

Cafodd y Tywysog Charles ei wneud yn Dywysog Cymru yn naw oed yn 1958, ond ni gafodd ei arwisgo gan y Frenhines nes mis Gorffennaf 1969, a hynny yng Nghastell Caernarfon.

Yn 么l ymchwil 91热爆 Cymru roedd 41% o'r rhai a holwyd yn ffafrio arwisgiad tebyg i'r un yng Nghaernarfon.

Roedd 20% eisiau seremoni wahanol i'r un yn 1969, tra bod 30% ddim eisiau arwisgiad o gwbl.

Bydd y Frenhines, Tywysog Cymru, Duges Cernyw, Dug a Duges Caergrawnt a Dug a Duges Sussex ymysg y rheiny fydd yn mynychu'r derbyniad.