Y 91热爆 'ddim am wario mwy' ar greu archif ddarlledu
- Cyhoeddwyd
Mae 91热爆 Cymru wedi dweud wrth ACau nad yw'r gorfforaeth yn gallu gwario rhagor o arian i helpu rhedeg archif ddarlledu genedlaethol.
Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud na fydd Llywodraeth Cymru'n rhoi cyllid tuag at y cynllun, gan alw ar y 91热爆 i gynyddu ei gefnogaeth ariannol.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn bwriadu creu Archif Ddarlledu Genedlaethol gwerth 拢9m fyddai'n gartref i 160,000 o recordiadau o archif raglenni 91热爆 Cymru.
Dywedodd cyfarwyddwr 91热爆 Cymru, Rhodri Talfan Davies wrth Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad bod y deunydd yn cael ei gynnig fel "anrheg" i'r llyfrgell.
Ym mis Tachwedd y llynedd daeth i'r amlwg na fyddai Llywodraeth Cymru'n ymrwymo 拢1m tuag at y prosiect oherwydd pryder y gallai "beryglu sefydlogrwydd ariannol y Llyfrgell Genedlaethol yn y dyfodol".
Mae angen cefnogaeth llywodraeth ar y cynllun er mwyn sicrhau 拢5m o nawdd gan y loteri.
O 2024 ymlaen bydd y 91热爆 yn darparu 拢20,000 y flwyddyn am dair blynedd tuag at gynnal a chadw'r archif, yn ogystal 芒 chefnogaeth gwerth tua 拢40,000 ar gyfer materion hawliau.
Yn ogystal, mae'r gorfforaeth wedi gwario 拢2.3m yn digideiddio'r archif, ac fe fyddai copi digidol hefyd ar gael i'r Llyfrgell Genedlaethol.
'Dim gorfodaeth i'w dderbyn'
Dywedodd Mr Davies bod y 91热爆 yn cynnig "pecyn sylweddol" o gymorth.
"Ry'n ni wedi egluro i'r llyfrgell a'r llywodraeth na fydd hi'n bosib i'r 91热爆 fynd tu hwnt i'r pecyn sydd wedi'i rannu eisoes," meddai wrth y pwyllgor.
"Mae'n bwysig iawn pwysleisio yn gyntaf mai anrheg arfaethedig i'r Llyfrgell Genedlaethol yw hwn.
"Does dim gorfodaeth ar y llyfrgell i gymryd yr archif yn ei chyfanrwydd."
Gan fod holl gynnwys 91热爆 Cymru - yn dyddio 'n么l i'r 1930au - wedi'i storio'n ddigidol erbyn hyn, dyw'r darlledwr ddim angen y tapiau.
Dywedodd Mr Davies y byddai'r 91热爆 yn cael gwared ar y tapiau rhyw ffordd arall os yw'r llyfrgell yn eu gwrthod.
"Dim ceisio osgoi costau mae'r 91热爆 yma," meddai. "Os dyw'r llyfrgell ddim angen y deunydd ni fydd yn cael ei gadw - fe wnawn ni gael gwared arno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2018