91热爆

'Dylai'r 91热爆 roi mwy' tuag at gynllun Archif Ddarlledu

  • Cyhoeddwyd
tapiau archif 91热爆

Dylai'r 91热爆 roi mwy o arian tuag at gostau rhedeg Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru, yn 么l y gweinidog diwylliant.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas na fyddai Llywodraeth Cymru'n rhoi cyllid tuag at y cynllun yn y Llyfrgell Genedlaethol oherwydd pryderon am gynaliadwyedd tymor hir y cynllun.

Dywedodd wrth Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad ddydd Iau fod angen i'r 91热爆 ysgwyddo mwy o faich ariannol y cynllun os oedd am symud yn ei flaen.

Yn 么l llefarydd ar ran 91热爆 Cymru maen nhw'n cydweithio "mewn modd gadarnhaol gyda'r holl bartneriaid ar y prosiect".

'Mater o egwyddor'

Roedd yr Archif Ddarlledu Genedlaethol gwerth 拢9m yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i fod i ddod yn gartref i 160,000 o recordiadau o archif raglenni 91热爆 Cymru.

Fe fyddai'r cyhoedd hefyd yn medru gweld y deunydd yn ddigidol mewn canolfannau gwylio arbennig ar draws Cymru.

Ym mis Tachwedd 2018 daeth i'r amlwg na fyddai Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i roi 拢1m tuag at y prosiect oherwydd pryder y gallai "beryglu sefydlogrwydd ariannol y Llyfrgell Genedlaethol yn y dyfodol".

Mae angen cefnogaeth llywodraeth ar y cynllun er mwyn gallu cael 拢5m o arian loteri.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas bod yn rhaid iddo warchod arian cyhoeddus

O 2024 ymlaen bydd y 91热爆 yn darparu 拢20,000 y flwyddyn am dair blynedd tuag at gynnal a chadw'r archif, yn ogystal 芒 chefnogaeth gwerth tua 拢40,000 ar gyfer materion hawliau.

Ond dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas fod "egwyddor" yn y fantol wrth ofyn am 拢1m gan y llywodraeth, gan fod y 91热爆 wedi "defnyddio ei hadnoddau ei hun" i adeiladu canolfan storio archif yn Lloegr.

"Mae'n codi pwynt o egwyddor ynghylch pa mor briodol yw hi i gyllid cyfyngedig o'r grant bloc Cymreig ar gyfer gwasanaethau datganoledig gael ei ddefnyddio yn y sefyllfa hon," meddai.

Dywedodd mai ei swydd ef oedd "gwarchod arian cyhoeddus a'i ddefnyddio'n briodol", a'i fod yn disgwyl i'r 91热爆 gyfrannu mwy o arian at y prosiect.

'Cydweithio cadarnhaol'

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddyn nhw bryderon ynghylch sut y byddai'r llyfrgell yn ariannu'r costau o redeg yr archif, gydag amcangyfrif y gallai gostio 拢256,000 y flwyddyn o 2024 ymlaen.

Y disgwyl yw y bydd gan y Llyfrgell Genedlaethol ddiffyg o 拢986,000 yn eu cyllideb erbyn 2024.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod trafodaethau gyda'r llyfrgell a'r 91热爆 yn parhau.

Ychwanegodd llefarydd ar ran 91热爆 Cymru: "Rydym yn parhau i weithio ar y cyd, mewn modd cadarnhaol gyda'r holl bartneriaid ar y prosiect hwn".