Gorymdaith yn erbyn dymchwel Cilgant Guildford a Gwdih诺
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion adeiladau ar stryd adnabyddus yng Nghaerdydd wedi cytuno i oedi eu cynlluniau i ddymchwel y safle, wedi cyfarfod gyda'r cyngor.
Daeth y cyhoeddiad ym mis Rhagfyr 2018 fod perchnogion Cilgant Guildford, lle mae'r bar poblogaidd Gwdih诺, yn bwriadu dymchwel y safle.
Ond yn 么l Cyngor Caerdydd mae'r perchnogion wedi cytuno i oedi eu cynlluniau yn dilyn trafodaethau gydag Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas.
Er gwaetha'r newyddion am oedi'r dymchwel, cafodd gorymdaith ei chynnal ddydd Sadwrn er mwyn ceisio atal y cynllun yn gyfan gwbl.
Cafodd yr orymdaith ei threfnu ar 么l i nifer fynegi eu siom gyda'r cynllun i ddymchwel y bar poblogaidd ar wefannau cymdeithasol.
Dywedodd Nia Williams, un o'r rhai sy'n ymgyrchu i atal y dymchwel, y byddai hi'n "drychineb" petai'r adeiladau yn diflannu.
"Mae Gwdih诺 yn rhoi llwyfan i gerddorion ifanc a sawl un arall sydd yn ddechrau eu gyrfa yn y diwydiant," meddai.
Ychwanegodd: "Nid yw oedi am dri mis yn golygu eu bod nhw'n saff."
Roedd adroddiadau bod tua 1,000 o bobl wedi ymuno erbyn diwedd yr orymdaith.
'Cadw, datblygu ac arbed'
Roedd disgwyl i'r stryd, sydd hefyd yn cynnwys bwytai a busnesau eraill, gael ei ddymchwel eleni.
Roedd y penderfyniad wedi denu ymateb chwyrn gan lawer, sy'n gweld Gwdih诺 a'r ardal yn rhan bwysig o ddiwylliant a hanes Caerdydd.
Dywedodd y cyngor bod yr ardal bellach yn rhan o gynllun datblygu sydd dan ystyriaeth a fyddai'n gweld Cilgant Guildford yn cael ei adfywio.
Dywedodd llefarydd mai'r gobaith fyddai "cadw, datblygu ac arbed [yr ardal] ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, fod y perchnogion wedi "cytuno i oedi wrth i ystyriaeth datblygu gael ei roi i'r ardal".
"Yn ystod y broses fe wnes i annog y perchnogion i ailfeddwl y penderfyniad wrth i drafodaethau dechrau ar ddyfodol y safle.
"Mae creu ardal gadwraeth yn rhywbeth unigryw. Mae rhaid gwneud y penderfyniad ar sail y gwerth hanesyddol a phensaern茂ol."
Bydd cyfnod asesu ac ymgynghori yn dechrau wrth i ddyfodol y safle gael ei benderfynu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2018