Bar Gwdih诺 yng Nghaerdydd i gau yn y flwyddyn newydd
- Cyhoeddwyd
Bydd bar Gwdih诺 yng Nghaerdydd yn cau yn y flwyddyn newydd wedi i'w landlordiaid benderfynu peidio adnewyddu eu les yn y lleoliad.
Mae'r lleoliad ar Gilgant Guildford yng nghanol y ddinas yn cynnal nifer o gigs ac yn gefnogwr mawr o gerddoriaeth iaith Gymraeg.
Dywedodd y lleoliad mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol eu bod yn cyhoeddi'r newyddion yn "drwm galon".
Mae perchnogion yr adeilad, yn ogystal 芒 rhai cyfagos, eisiau eu dymchwel ac adeiladu datblygiad newydd yn eu lle.
Yn 么l staff bydd yn rhaid i Gwdih诺 adael y lleoliad ar 30 Ionawr.
Mae deiseb ar-lein wedi'i lansio gan fudiad o'r enw Save Gwdih诺 i geisio achub y bar, ac roedd dros 3,500 wedi ei arwyddo brynhawn Mercher.
Daw wedi i leoliad arall oedd yn gefnogwr mawr o gerddoriaeth Gymraeg - y Parrot yng Nghaerfyrddin - gyhoeddi y bydd hefyd yn cau ddiwedd y flwyddyn.
'Parhau 芒'r enw Gwdih诺'
"Rydyn ni eisiau diolch i bawb sydd wedi gwneud Gwdih诺 yn le mor arbennig i fod dros y degawd diwethaf," meddai'r datganiad.
"Y peth gorau am Gwdih诺 yw cymaint o deulu yw e, ac rydyn ni mor lwcus o fod wedi cael pobl mor gyfeillgar a chefnogol yn rhan o'r teulu hwnnw."
Ond mae'r staff yn awyddus i ganfod lleoliad arall ar gyfer Gwdih诺, ac yn annog unrhyw un all eu helpu i gysylltu.
"Nid dyma'r diwedd i ni," meddai'r datganiad.
"Rydyn ni'n gobeithio parhau 芒'r enw Gwdih诺 yn 2019, felly ry'n ni'n annog unrhyw un fyddai efallai yn gallu cynnig lleoliad neu gyfrannu mewn unrhyw ffordd i gysylltu."
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Mae'r cyngor hwn wedi ymrwymo i gefnogi cerddoriaeth fyw yn y ddinas ac mae'n bwysig i mi ein bod yn gwneud popeth y gallwn i helpu lleoliadau fel Gwdih诺, sy'n chwarae rhan enfawr yn s卯n ffyniannus annibynnol a diwylliannol ein dinas, i oroesi.
"Rwy'n gwybod bod y lleoliad yn dweud ei fod yn dymuno parhau yn y ddinas a'i fod yn chwilio am le newydd.
"Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i'w helpu i chwilio a byddaf yn gofyn i swyddogion gysylltu 芒 nhw er mwyn trafod unrhyw leoliad newydd posibl sydd ar gael.
"Cymerwyd y penderfyniad i ddod 芒'r prydlesi ar Guildford Crescent i ben gan y landlord.
"Nid oes gennym unrhyw bwerau i rwystro hwn, ond byddwn yn ceisio siarad 芒'r landlord i weld a ellir gwneud unrhyw beth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2018