Mwy o arian llywodraeth i brentisiaethau a thaclo tlodi
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n gwario 拢6.8m yn rhagor ar brentisiaethau yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi fersiwn terfynol eu cyllideb, fe wnaeth gweinidogion hefyd gymeradwyo 拢4.7m tuag at gyflogau addysg bellach a 拢2m i daclo tlodi plant.
Bydd hefyd pecyn gwerth 拢23.6m o gymorth cyfraddau busnes ar gyfer siopau ar y stryd fawr.
Fe fydd pleidlais ar y gyllideb 拢18bn ar gyfer 2019-20 yn cael ei chynnal yn y Senedd ym mis Ionawr.
'Hyfforddiant o safon'
Roedd galwad wedi bod am fwy o arian i gynghorau wedi i'r gyllideb drafft gwreiddiol awgrymu toriadau i awdurdodau lleol a chynnydd yng nghyllid y gwasanaeth iechyd.
Yn ddiweddarach fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi y byddai'r toriadau ychydig yn llai na'r disgwyl.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r arian ar gyfer prentisiaethau yn mynd tuag at 100,000 prentisiaeth "o bob oed".
"Mae prentisiaethau yn hanfodol er mwyn helpu pobl i gael hyfforddiant galwedigaethol o safon uchel a darparu cyfleoedd i fusnesau a'r economi ffynnu," meddai'r Ysgrifennydd Cyllid Rebecca Evans.
Bydd Cymru hefyd yn derbyn 拢550m yn ychwanegol o Lywodraeth y DU dros y tair blynedd nesaf oherwydd bod mwy o arian yn cael ei wario yn Lloegr ar gymorth cyfraddau busnes.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n gwario'r arian ar gyfer yr un pwrpas.
Bydd 拢1.6m yn ychwanegol hefyd yn mynd tuag at gynllun sy'n helpu i dalu am wisg ysgol a dillad chwaraeon i ddisgyblion, tra bydd 拢400,000 yn mynd tuag at ddarparu prydau bwyd i blant yn ystod y gwyliau haf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2018