91热爆

Mwy i iechyd ond llai i gynghorau Cymru yn y gyllideb

  • Cyhoeddwyd
Drakeford

Bydd gwariant ar iechyd yng Nghymru yn codi o 拢500m y flwyddyn nesaf, ond mae awdurdodau lleol yn debyg o weld toriadau pellach o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth Cymru.

Wrth gyhoeddi ei gyllideb ddydd Mawrth, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford y bydd y gwariant yr adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn codi o fwy na 5% yn uwch na lefel chwyddiant.

Bydd arian ar gyfer llywodraeth leol yn llai o tua 2% er i arweinwyr y cynghorau ddweud fod gwasanaethau allweddol fel gofal cymdeithasol ac addysg o dan straen aruthrol.

Mae oddeutu 80% o gyllid Llywodraeth Cymru yn dod yn uniongyrchol o Lywodraeth San Steffan ar ffurf grant.

Ond y flwyddyn nesaf am y tro cyntaf fe fydd 12% yn dod o dreth incwm sy'n cael eu casglu yng Nghymru. Mae'r gweddill yn dod o drethi busnes a threthi eraill sydd wedi'u datganoli.

Oherwydd toriadau gan Lywodraeth y DU, fe fydd cyllideb Cymru 5% yn is mewn termau real nag yr oedd 10 mlynedd yn gynharach.

Trethi

Dywedodd Mr Drakeford na fydd y dreth ar brynu eiddo yn newid y flwyddyn nesaf, ac na fydd yn newid y bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir.

Fe wnaeth hefyd gadarnhau - yn 么l y disgwyl - na fyddai'n gwneud newidiadau i dreth incwm.

Bydd Llywodraeth Cymru'n cael y grym i amrywio treth incwm o fis Ebrill nesaf, ond mae Llafur wedi addo peidio gwneud newidiadau tan 2021.

Yr unig newidiadau a gyhoeddwyd i'r system dreth yw y bydd ymgynghoriad ar atal ysgolion ac ysbytai preifat rhag hawlio ad-daliad ar drethi busnes fel elusennau, ac ymgynghoriad ar beidio codi treth cyngor ar bobl ifanc sy'n gadael gofal tan eu bod yn 25 oed.

Fe fydd manylion llawn y cynllun gwario yn cael eu cyhoeddi fis nesaf, ond dywedodd Mr Drakeford: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth - ac fe fyddwn yn parhau i wneud - i warchod gwasanaethau rheng flaen rhag effeithiau gwaethaf llymder.

"Dyw'r gyllideb hon yn ddim eithriad."

Dywedodd fod "cymylau du Brexit" yn rhoi pwysau ar gyllidebau ac yn cynyddu'r galw am wasanaethau, ac mai hon oedd ei "gyllideb anoddaf erioed".

"Gyda llai o arian, mwy o alw a chwyddiant yn codi rydym wedi gweithio'n galed i wasgu bob ceiniog ag y gallwn ni ar gyfer y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl," meddai.