91热爆

Cwestiynu dyfodol hir dymor canolfannau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Atom
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd canolfan yr Atom yng Nghaerfyrddin ei agor yn 2015

Mae cwestiynau'n cael eu gofyn am ddyfodol hir dymor rhai o ganolfannau Cymraeg Cymru sydd wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Yn dilyn trafferthion yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd, mae 91热爆 Cymru wedi clywed pryderon bod llai o weithgareddau Cymraeg yn cael eu cynnal yng nghanolfan yr Atom yng Nghaerfyrddin.

Mae rhai wedi cwyno hefyd am arwydd uniaith Saesneg sydd wedi ymddangos yn ffenest flaen uned sy'n rhan o'r ganolfan gafodd ei hagor yn 2015.

Dywedodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu bod yn falch o lwyddiant yr Atom, tra bod Llywodraeth Cymru'n dweud mai mater i'r canolfannau yw rheolaeth ddyddiol.

'Canolfannau'n fregus'

Cafodd 10 o ganolfannau eu sefydlu gan Lywodraeth Cymru ar draws Cymru ar gost o dros 拢2m ond roedd y grantiau ar gael i sefydliadau addysg a chynghorau sir yn unig.

Y nod oedd creu "canolfannau deinamig lle bydd pobl yn gallu dysgu neu ymarfer eu Cymraeg".

Mae Canolfan yr Atom yng Nghaerfyrddin yn cynnwys nifer o swyddfeydd, ond mae'r caffi wedi bod ar gau ers rhai wythnosau.

Deellir bod cwmni Technoleg Gwybodaeth, sydd 芒'i bencadlys yn Ipswich, wedi sefydlu swyddfa mewn un o'r unedau yn y ganolfan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Meirion Prys Jones bod angen "meddwl yn llawnach" am strategaeth

Er yn croesawu'r buddsoddiad i hybu'r Gymraeg, mae'r arbenigwr mewn datblygu cymunedol a'r iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, yn dweud bod cwestiwn am eu cynaladwyedd hir dymor.

"Yn sicr roedd yna groeso i'r buddsoddiad, ond mae'r cwestiwn yn codi oherwydd dyw pobl ddim yn hoffi mynd i'r un lle drwy'r amser i gymdeithasu ac felly dyna un o ddiffygion mwyaf y canolfannau 'ma yw eu bod nhw'n ddibynnol ar bobl yn dod i'r un lle.

"Mae angen meddwl yn llawnach beth yw strategaeth y llywodraeth yngl欧n 芒 chefnogi defnydd o'r Gymraeg, a hynny mewn sawl man.

"Heb gefnogaeth gan grwpiau o unigolion, mae'r llefydd yma yn fregus.

"Y gymuned sydd yn gwybod sut mae hyrwyddo'r Gymraeg o fewn y gymuned honno."

Mae gwirfoddolwr gyda phapur bro Caerfyrddin, Cwlwm, yn pryderu am mai Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy'n gyfrifol am yr Atom.

Yn 么l Iwan Evans: "Sai'n credu taw prif job prifysgol yw trefnu gweithgareddau hamdden.

"Y cwestiwn yw a oes yna broses o ddatblygu gwreiddiau cymunedol ar gyfer canolfan gymunedol?

"Sai'n gwybod os ydy hynny yn digwydd. Job pwy yw craffu ar y sefyllfa?

"Mae'n allweddol bod yna fonitro ar gyfer arian cyhoeddus achos ein harian ni yw e. Arian ar gyfer yr iaith Gymraeg.

"Mae gymaint o fudiadau byddai wrth eu bodd i gael cefnogaeth debyg."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae arwyddion un o'r swyddfeydd yn uniaith Saesneg

Yn 么l y fyfyrwraig Manon Elin James, sydd wedi cwblhau traethawd ymchwil ar y canolfannau, roedd diffygion gyda'r broses o ddyrannu'r arian.

"Mae'n broblem taw dim ond awdurdodau lleol a sefydliadau addysg oedd yn cael ymgeisio am grant...

"Mae hynny yn cau allan mentrau a phobl ar lawr gwlad sy'n deall anghenion eu cymunedau.

"Dwi ddim yn credu bod yna ddigon o graffu yn digwydd."

'Cyfraniad sylweddol'

Mewn datganiad dywedodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu bod wedi "buddsoddi'n helaeth" yn yr Atom ac "yn falch o'i llwyddiant ers ei sefydlu yn 2015".

Ychwanegodd y datganiad bod y ganolfan yn "gartref i ystod o weithgareddau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg yn y dref" ac "wedi cyfrannu'n sylweddol at godi ymwybyddiaeth pobl y dref o'r Gymraeg a'i phwysigrwydd ymhlith y gymuned fusnes".

Honnodd y brifysgol hefyd bod y ganolfan wedi "arwain at gynnal mwy o ddigwyddiadau Cymraeg mewn mannau eraill yn y dref".

Aeth y datganiad ymlaen i ddweud bod holl swyddfeydd yr Atom yn llawn a'r tenantiaid wedi ymrwymo at yr iaith.

"Mae'r cwmni sydd wedi symud i fewn i flaen yr adeilad wrthi ar hyn o bryd yn gosod arwyddion dwyieithog a'r tenantiaid eraill yn mynychu gwersi Cymraeg er mwyn datblygu'u sgiliau iaith.

"Mae'n gyfnod cyffrous i'r Atom gyda'r caffi o dan reolaeth newydd ac ar fin symud i leoliad mwy blaenllaw ym mlaen yr adeilad er mwyn ei wneud yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr y ganolfan..."

Llywodraeth yn 'monitro'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai bwriad y grantiau ganddynt oedd sefydlu canolfannau Cymraeg a pharatoi cynlluniau busnes.

"Mater i'r canolfannau yw'r rheolaeth o ddydd i ddydd gan mai grant cyfalaf yn unig oedd hwn.

"Rydym wedi derbyn adroddiadau monitro sy'n amlinellu sut mae amcanion y prosiect wedi'u cyflawni gan bob un o'r canolfannau a sefydlwyd ac rydym ar hyn o bryd yn ystyried cynnwys yr adroddiadau hynny."