Meirion Prys Jones yn galw am strategaethau mwy 'heriol'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn br卯f weithredwr Bwrdd yr Iaith wedi dweud nad ydi cynghorau Cymru yn ddigon "uchelgeisiol" gyda'u strategaethau ar gyfer addysg Gymraeg.
Mae Meirion Prys Jones o'r farn bod y drefn bresennol yn "adlewyrchu'r status quo a bod 'na ddiffyg uchelgais yng nghynllun y llywodraeth i annog miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050".
"Os am filiwn o siaradwyr Cymraeg rhaid chwyldroi'r system addysg" meddai.
"Rhan o'r broblem yw bod y galw'n fwy na'r ddarpariaeth a tydi'r llywodraeth ddim yn awyddus i ymateb i'r galw. Tydi'r drefn sydd gyda ni ar hyn o bryd byth yn mynd i gyrraedd y nod."
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y gweinidog yn "barod i herio unrhyw gynlluniau annigonol".
'Angen strategaethau mwy radical'
Yn ystod cyfnod Mr Jones fel Prif Weithredwr yn y 90au fe gyflwynodd Bwrdd yr Iaith strategaethau i gynghorau lleol.
Mae'n dweud nawr bod angen ei newid gyda "strategaethau mwy radical."
Mae'r mudiad, Rhieni dros addysg Gymraeg (RhAG) wedi ymateb drwy ddweud y dylai cynghorau lleol gael "targedau unigol a mesuradwy."
Mae RhAG hefyd yn galw ar y llywodraeth i "arwain y ffordd ar gyfer ceisio cyrraedd y targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."
Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru yn dweud: "Bydd y Llywodraeth yn gwerthuso'r strategaethau yn y flwyddyn newydd. Mae'r Gweinidog, Alun Davies yn barod wedi datgan ei fod yn barod i herio unrhyw gynlluniau annigonol.
"Ni fydd y Llywodraeth yn gwneud unrhyw sylw cyhoeddus nes i'r broses hon fynd rhagddi."