Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Golwg gyntaf ar geir Aston Martin
Mae Aston Martin wedi arddangos y prototeip cyntaf o ddau gerbyd trydan fydd yn cael eu cynhyrchu yn eu ffatri ym Mro Morgannwg.
Yn 么l y cwmni, y Lagonda fydd y car moethus cyntaf yn y byd fydd 芒 dim allyriadau o gwbl.
Fe fydd y model y cyntaf yn dod o'r llinell gynhyrchu yn Sain Tathan yn 2021.
Fe fydd car trydan cyntaf Aston Martin, Rapide E, yn barod erbyn y flwyddyn nesaf.
Ym mis Medi eleni fe gyhoeddodd y cwmni eu bod am sefydlu Cymru fel eu 'cartref' ar gyfer ceir trydan.
Dywedodd Andy Haslam o Aston Martin fod y ceir wedi eu hanelu at y rhai a chyflogau uchel sy'n hoff o'r dechnoleg ddiweddaraf - gan geisio apelio yn benodol at bobl arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau a China.
Erbyn yr adeg yma'r flwyddyn nesa', mae Aston Martin yn gobeithio y bydd y safle yn Sain Tathan yn cyflogi 300, gan gynyddu i 700 erbyn gwanwyn 2020.
Gwrthododd Mr Haslam wneud sylw ar adroddiadau gan y 91热爆 fod Llywodraeth Cymru wedi darparu 拢18.8m i'r cwmni- ond fe ddywedodd nad cymorth ariannol oedd y prif reswm am ddewis y safle yng Nghymru yn hytrach na'r 19 oedd dan ystyriaeth.