Sain Tathan i fod yn 'gartref trydaneiddio' Aston Martin
- Cyhoeddwyd
Mae Aston Martin yn bwriadu datblygu'r ganolfan yn Sain Tathan yn "gartref trydaneiddio" i'r cwmni - cam, medd penaethiaid, allai arwain at greu cannoedd o swyddi.
Cyhoeddodd y cwmni mai yn y ganolfan ym Mro Morgannwg y bydd car newydd y Lagonda yn cael ei adeiladu - cerbyd sy'n cael ei ddisgrifio fel y car moethus cyntaf yn y byd i beidio 芒 chynhyrchu unrhyw allyriadau.
Mae'r cwmni wrthi'n datblygu hen safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan, gyda'r bwriad o ddechrau cynhyrchu cerbydau yn 2019.
Mae disgwyl i tua 750 o swyddi gael eu creu ar y safle, ond mae'r cwmni'n rhagweld y bydd mwy o swyddi eto'n dod yno yn sgil y cyhoeddiad diweddaraf.
Y Rapide E - car cynta'r cwmni i gael ei bweru gan fatri - fydd y cyntaf i gael ei gynhyrchu yn Sain Tathan, ac mae cynlluniau hefyd i gynhyrchu'r car moethus, y DBX, yno o 2020 ymlaen.
Croesawodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones y datblygiadau diweddaraf, gan ddweud ei fod yn brawf o'r hyder sydd gan Aston Martin yng ngallu'r gweithlu yng Nghymru,
Ddiwedd mis Awst, cyhoeddodd Aston Martin gynlluniau i roi eu cyfrannau ar y farchnad stoc yn Llundain.
Mae 'na ddyfalu y gallai hynny ddigwydd fis nesaf, a dyfalu pellach y gallai'r cwmni fod werth 拢5bn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd30 Awst 2017