91Èȱ¬

Llywodraeth Cymru yn rhoi £19m i Aston Martin

  • Cyhoeddwyd
Car
Disgrifiad o’r llun,

Y DBX crossover tu allan i adeilad Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays yn 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £18.8m mewn grantiau i gwmni ceir Aston Martin, gall 91Èȱ¬ Cymru ddatgelu.

Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, daeth i'r amlwg bod y ffigwr yn sylweddol uwch na'r £5.8m oedd wedi cael ei adrodd yn y gorffennol.

Gall yr arian gael ei ddefnyddio dros gyfnod o dair blynedd yn ddibynnol ar os ydy'r cwmni'n cyrraedd targedau penodol.

Hyd yma, mae Aston Martin wedi defnyddio £3.5m o'r grantiau.

Fe ofynnodd 91Èȱ¬ Cymru i'r llywodraeth os oedd mwy o arian cyhoeddus wedi'i roi i'r cwmni fel rhan o benderfyniad diweddar i gynhyrchu ceir trydan hefyd yn Sain Tathan, Bro Morgannwg.

Fe wrthododd Llywodraeth Cymru ddatgelu'r wybodaeth, gan arwain at y 91Èȱ¬ yn anfon cais rhyddid gwybodaeth.

Gwrthod datgelu'r wybodaeth

Ym mis Chwefror 2016 fe gyhoeddodd Aston Martin y byddai car newydd y DBX crossover yn cael ei adeiladu yn Sain Tathan, gan greu hyd at 750 o swyddi.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ar y pryd mai dyma ddechrau perthynas hirdymor rhwng Cymru ac Aston Martin.

Er i'r llywodraeth wynebu pwysau i ddatgelu manylion ariannol y cytundeb, roedd y llywodraeth wedi gwrthod i ddechrau, gan ddweud y byddai'n rhoi diddordebau masnachol "dan anfantais".

Mae'r buddsoddiad yn mynd tuag at greu swyddi, hyfforddiant sgiliau ac ymchwil a datblygu.