Llofruddiaeth Conner Marshall: Cwest i ailgychwyn
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 18 oed gafodd ei ladd wedi cael gwybod bydd cwest i'w farwolaeth yn ailgychwyn.
Bu farw Conner Marshall o'i anafiadau ar 么l i David Braddon ymosod arno ym Mharc Carafanau Bae Trecco ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015.
Cafwyd Braddon yn euog o lofruddiaeth a'i garcharu am oes ym mis Mehefin 2015.
Fe gymrodd Nadine a Richard Marshall eu hachos i lys y crwner am nad oedd ganddyn nhw ddigon o wybodaeth am yr amgylchiadau yn arwain at farwolaeth eu mab hynaf.
Roedden nhw'n poeni'n benodol am ddedfrydau blaenorol Braddon, a safon y goruchwylio gan y gwasanaethau cyffuriau a'r swyddogion prawf (probation).
Dywedodd eu cyfreithiwr bod Braddon wedi camarwain y swyddogion a'i fod yn canslo ac yn peidio mynychu apwyntiadau.
Fe glywodd y llys hefyd bod Braddon wedi cyflawni nifer o droseddau yn ymwneud 芒 chyffuriau a thrais dros y blynyddoedd a'i fod wedi cael ei asesu fel perygl i'r cyhoedd.
Dywedodd y crwner wrth y teulu eu bod nhw'n "gwthio drws sy'n agored" a bod y ffaith i Braddon bledio'n euog wedi golygu nad oedd y ffeithiau wedi cael eu harchwilio'n llawn.
Mae sg么p y cwest eto i'w gadarnhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017