Conner Marshall: Mam yn ailfyw anafiadau erchyll ei mab
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Lluniau all beri loes
Mae'r darlun o Conner Marshall gydag anafiadau erchyll yn dal i beri poen i'w fam.
Dwy flynedd a hanner yn 么l, fe wnaeth ddyn ymosod ar Conner, oedd yn 18 oed, a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Fe wnaeth y llofrudd, David Braddon o Gaerffili, sathru ar ei wyneb, ei gicio a'i daro droeon gyda pholyn metel.
Dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi mynd allan gyda'r bwriad o ymladd gyda rhywun.
Fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth a'i garcharu am oes ym mis Mehefin 2015.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar 8 Mawrth wedi i Nadine Marshall ddweud hwyl fawr wrth ei mab.
"Roedd e fel diwrnod arferol... roedd e wedi cyffroi ac mewn lle da yn ei fywyd," meddai.
Dywedodd Conner wrthi y byddai'n dychwelyd y diwrnod canlynol i ddathlu ei phen-blwydd, a phan ddaeth cnoc ar y drws y bore wedyn, roedd yn meddwl mai Conner oedd yno.
Ond dau blismon oedd yno gyda'r newyddion am yr ymosodiad, a bod ei mab yn yr ysbyty.
Aeth y teulu ar frys i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, a chlywed fod gan Conner anafiadau fyddai'n bygwth neu yn newid ei fywyd.
Wedi disgwyl am hir fe gafodd y teulu ei weld, a dyna'r delweddau ohono y mae Nadine Marshall yn methu anghofio.
"Roedd e mewn cawell i gadw'i ben yn llonydd - roedd ei wyneb yn llawn cleisiau a gwaed, ac roedd cwt enfawr ar ei dalcen," meddai.
"Roedd tiwbiau a pheipiau ymhobman - roedd e'n hollol ofnadwy.
"Pan dynnwyd y blanced yn 么l roeddech chi'n gallu gweld olion traed ar ei gorff."
Diwrnod yn ddiweddarach daeth un o'r meddygon i ddweud wrth y teulu nad oedd pethau'n edrych yn dda ac nad oedd Conner yn ymateb i sganiau o'i ymennydd.
"Rwy'n cofio eistedd yno'n meddwl 'gall hyn ddim bod yn digwydd - nid i fy mab i'," meddai.
Ar 么l pedwar diwrnod wrth ei wely fe wnaeth Nadine a Richard Marshall ffarwelio gyda'u mab am y tro olaf.
Roedd Conner yn credu'n gryf mewn rhoi organau. Gan fod ei anafiadau mor ddrwg, dim ond ei iau a'i arennau oedd mewn cyflwr i'w rhoi, ond fe aeth yr organau i achub bywydau tri pherson.
Cafodd Ms Marshall ei gadael yn diodde' o Afiechyd Straen 脭l-Drawma (PTSD), ac mae'n ailfyw'r profiad yn aml. Nid yw wedi gallu dychwelyd i weithio.
Mae'n dweud fod clywed s诺n ambiwlans mewn drama deledu yn gallu dod 芒'r teimladau yn 么l yn syth: "Mae'n mynd 芒 fi yn 么l i'r foment - yr oglau, y s诺n - mae'n erchyll a brawychus."
Er y profiad ofnadwy y mae'r teulu eisoes wedi profi, mae Ms Marshall yn credu bod y gwaethaf eto i ddod.
"Dwi ddim yn meddwl 'mod i wedi dechrau galaru go iawn eto," meddai. "Rwy'n gwybod nad yw e wedi mynd cynddrwg ag y mae'n mynd i fod.
"Rwy'n ei weld e fel twll enfawr yn y ddaear, a finnau ar ymyl y dibyn drwy'r amser.
"Rwy'n gwybod fod rhaid i fi fynd i waelod y twll a dod yn 么l mas - fe fyddai'n gwneud hynny, ond mae meddwl amdano'n frawychus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2015
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2015
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017